Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynnodd

dynnodd

Pen tua hanner awr daeth Is-Bennaeth yr ysbyty i'n gweld gan dywys dyn tynnu lluniau'r ysbyty a dynnodd lun ohono yn edrych yn bwysig gyda Kate ac yn ysgwyd llaw â mi.

Daw'r bygythiad wrth i gwmni Alchemy a dynnodd eu cynnig nhw'n ôl i brynu Rover ddydd Gwener ddweud eu bod yn fodlon ailddechrau trafod gyda BMW.

Wedi ymladdfa ddofn ac araf, llysywen fawr, felen, fudr a dynnodd i'r lan.

Er mai prif lyfr John Addington Symonds ydoedd The History of the Italian Renaissance, ac er bod y llyfr hwnnw ar ryw ystyr yn hollol nodweddiadol o nawdegau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ddechrau'r ugeinfed, ei lyfr mwyaf poblogaidd ydoedd Wine, Women and Song: Mediaeval Latin Students', llyfr a dynnodd y llen oddi ar gerddi'r Ysgolheigion Crwydrad, ac, fel y cawn weld, yr oedd eraill wrthi'n dadlennu byd cerddi'r Trwbadwriaid.

Yna fe dynnodd y bws i mewn i le bwyta ar y draffordd a chyhoeddodd y gyrrwr fod yn rhaid i ni fynd oddi ar y bws am ein bod yn gwneud gormod o sŵn.

Yr oedd y bwrdd a rhannau o'r llawr yn un llanastr o bapurau a llythyrau, ond yr hyn a dynnodd sylw Dan ar unwaith oedd y pâr o wadnau enfawr a'i hwynebai o ganol y bwrdd.

Un o'r pethau a dynnodd fy sylw gyntaf wedi symud i'm cartref newydd oedd yr adeilad mawr - muriau uchel o'i gylch, a safai led dau gae oddi wrth ein tŷ ni.

Pan ddaeth i fyny at ochr y gwely, efe a dynnodd y llen yn agored, a chan dynnu i fyny y dillad, yr oedd ar bwynt dyfod i mewn.

Gwahoddwyd yr awdur i roi sgwrs ar Genedlaetholdeb Cymru ar y radio, ond ddeuddydd cyn y darllediad fe dynnodd penaethiaid y BBC y gwahoddiad yn ôl.

Y peth cyntaf dynnodd sylw Joni pan gyrhaeddson nhw'r pier oedd y bylchau oedd rhwng ystyllod y llawr.

Aeth yn ôl i helpu'r amddiffyn a gwneud tacl wych yn y gornel ond fe dynnodd llinyn ei âr - yr hen wendid yna sy ganddo fo - a gorfod gadael y cae.

Daeth y bachyn o'i afael, ac fe dynnodd y ceffylau y coitsmon oddiar y brêc.

Y parsel dan fraich Dad a dynnodd sylw Rhys, parsel ac ager yn codi ohono.