Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dynoliaeth

dynoliaeth

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.

Sefydlwyd perthynas dynoliaeth ag adnoddau adnewyddol ac anadnewyddol ein planed, yn bwnc canolog ar lefel ein milltir sgwâr ac ar lefel y pwerau mawrion.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Gwnaeth y teulu hefyd gymwynas fawr â dynoliaeth trwy gymysgu eli o lysiau at wella'r eryr - Eli Dremddu sydd wedi bod yn fodd i wella pobol ar draws y byd o'r dolur eryrod.

Yn y sefyllfa hon gwelir bwysiced yw diwylliant ac iaith Cymru fel gwrthglawdd i amddiffyn dynoliaeth ac urddas y bobl.

Hanes llifeiriant yn ffrydio ydyw hanes dynoliaeth - ymlaen ymlaen o hyd .

Yn gyntaf derbyniwyd cyd-gyfrifoldeb dynoliaeth am stâd ein planed a'n dibyniaeth ar y prosesau ecolegol sy'n ein cynnal.

Dros y canrifoedd mae dynoliaeth wedi bod yn ddidrugaredd o annheg ato.

Yn anffodus, mae ochr llawer mwy trist a pheryglus i ddefnydd dynoliaeth o'r môr.

Creodd Duw Adda o'r ddaear forwynol, yn un a allai ddwyn delw Duw, ac yn llawn potensial ar gyfer dynoliaeth.

Eu hiaith a'u diwylliant oedd prif amddiffyniad urddas a dynoliaeth y Cymry yn wyneb goresgyniad diwydiannaeth a chyfalafiaeth ysgeler y ganrif ddiwethaf, ond polisi anwar y Llywodraeth oedd eu diddyfnu oddi wrth eu diwylliant a'u diwreiddio o'u hanes fel y chwelid y gymdeithas genedlaethol.

Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.