Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyrannu

dyrannu

Yn wir, fe all fod yn amhosibl dyrannu'r argost ar unrhyw sail synhwyrol, a byddai ceisio gwneud hynny'n rhoi atebion hollol gamarweiniol.

y gellid dyrannu'r gronfa Canolfannau Perfformio'n fwy effeithlon ac y dylid trafod hyn.

Mae'n galonogol bod adnoddau yn awr wedi eu dyrannu i gyflawni amcanion arlein ar gyfer y ddwy iaith.

Tai oedd testun y nifer ail fwyaf o gwynion ac eleni 'roedd y pryder ynglŷn â'r modd yr oedd rhai awdurdodau wedi bod yn dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddynt.

Yn sgîl y trafodaethau a ddigwyddodd rhwng Y Swyddfa Gymreig, PDAG a'r asiantau cynhyrchu cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd aeth heibio, gofynnwyd i PDAG geisio cysoni'r system o gyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau fod grantiau cyhoeddi deunyddiau addysgiadol yn cael eu dyrannu ar seiliau tebyg i bawb ac yn gyson â threfniadaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.