Tawodd y dyrfa wrth weld hyn gan ildio'r groesfan a'r gatiau i'r awdurdodau erbyn naw o'r gloch.
Pan gyrhaeddodd y Fishguard Express funudau wedi deg o'r gloch, er enghraifft, dringodd rhai picedwyr lwyfan troed y peiriant i ddadlau â'r gyrrwr ac i annerch y dyrfa.
Gwelodd y dyrfa, nid yn unig fel defaid heb fugail, ond fel defaid heb borfa.
Agorasant y gatiau wedyn gan anwybyddu ymdrechion y dyrfa i gyfeillachu â hwy.
Dilynodd y dyrfa yr hen ŵr a'i bastwn allan o'r sgwâr, ar hyd un o'r strydoedd culion a thrwy un o'r pyrth.
Siaradodd Mrs Thatcher yn wych, tynnodd y tocynnau raffl a hebryngais hi drwy'r dyrfa gan ysgwyd llaw gyda chyn gymaint âg oedd yn bosib tuag
Gwrthgiliodd gofalwr arwyddion o'i safle yn y blwch gorllewinol, er llawenydd i'r dyrfa, ond rhaid oedd defnyddio dulliau cryfach i gael gwared ar y gofalwr o brif flwch yr orsaf.
Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.
Pan gyrhaeddodd y milwyr o boptu'r trên ymffurfiasant yn un rhes yn wynebu Bryn Road (lle'r oedd llawer o fenywod a phlant ymhlith y dyrfa), a dwy res gyferbyn â gerddi High Street.
Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.
Yn wir, nid oedd trwch y dyrfa'n ddynion rêl o gwbl ond yn hytrach gweithwyr o ddiwydiannau eraill a ddymunai ddangos eu hochr.
Daeth ymlaen trwy'r dyrfa at f'ochr.
Ymdawelodd y dyrfa.
"Rwyt ti a dy fath wedi difetha'r dyddiau hynny am byth," a phoerodd Marie ar y llawr wrth ddilyn Jean Marcel o'r dyrfa.
Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.
Daeth y dyrfa yn nes.
Enlli oedd un o'r rhai cyntaf i gael ei chipio wrth i'r plismyn ruthro i ganol y dyrfa.
HERALD", ac yn aml fel atodiad "Ruabon Case%, canys yr oedd gan y golygydd eithaf deall o apel achosion cyfreithiol at y dyrfa ac yn Rhiwabon yr eisteddai'r ustusiaid.
Gwyra tair hwyaden oddi ar eu llwybr fel pe bai i gael golwg well ar y dyrfa oddi tanynt.
Mae'n wir y sonnir am dyrfa o filwyr, am gefnogaeth gref y chwarelwyr, ac am yr awyrgylch gynhyrfus yn gyffredinol.
Rhyw dyrfa wasgarog o bererinion fu'r nofelwyr erioed.
Mae Iesu i'w fawrygu am yr hyn ydyw, nid oherwydd yr hyn a gawn ganddo - adlais o gyhuddiad Iesu ei Hun yn erbyn y dyrfa a'i ceisiai, nid am iddynt weld y gwyrthiau ond am iddynt fwyta o'r bara a chael digon.
Yn wyneb dioddefaint rhai o'r teithwyr a oedd mewn cerbydau trên o hyd, cytunodd y Pwyllgor Streic i annerch y dyrfa.
Pan symudodd y milwyr i glirio pobl oddi ar y lein, trodd y dyrfa'n elyniaethus.
Ceisiodd wau ei ffordd drwy'r dyrfa a'r ceffylau, a chyhyrau'i freichiau'n dyheu am roi'r gurfa.
Yr oedd y swyddogion wedi llogi brec, ond gan sgrechfeydd y dyrfa a'r wasgfa fawr fe redodd y ceffylau'n wyllt ac anafwyd un ohonynt mor ddrwg nes gorfod ei saethu yn y fan a'r lle.
Ar ôl iddo ddarfod pregethu âi o amgylch y dyrfa fyddai wedi ymgynnull yn dosbarthu tractiau.