Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyrnaid

dyrnaid

Dyma'r amwysedd nodweddiadol Victoraidd a welir yn narluniau rhybuddiol Richard Redgrave neu Augustus Egg ar y naill law a synwyrusrwydd goludog gwaith artistiaid fel William Etty, Edward Poynter, Frederic Leighton a Laurence Almatadema (i nodi dyrnaid yn unig) ar y llaw arall.

Sut oeddynt i fyw heb y dyrnaid bwyd a dderbynient yn ddyddiol oddi wrth y Senwsi?

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Roedd hi wedi dewis dyrnaid o gerrig glas.

Samwn yn cael eu rhwydo, dyrnaid o gychod yn cael eu hwylio a thipyn o ymwelwyr yn dod yno i synhwyro.

Dyrnaid o gerrig man, yn ol y rheolau, i guddio unrhyw annibendod yn y godre.

Dydi fy chwaer yng nghyfraith ddim yn credu mewn rhoi siwgwr mewn teisan, ac mi wyddost, neu mi fedri ddychmygu, be' ydi teisan gwsberis hefo dyrnaid o halen ynddi hi yn lle siwgwr.

bachgen, ddim mwy na naw neu ddeg oed, fe dybiai, yn gafael yn dynn a 'i ddwy law mewn dyrnaid o frigau digon bregus yr olwg arnynt, a 'r rhan fwyaf o 'i gorff bychan yn cael ei chwipio 'n gyson gan ruthr y dyfroedd o 'i amgylch.

I ddifyrru'r amser, fel petai, cydiodd mewn dyrnaid o dai a ffermdai a'u gollwng yn freuddwydiol drwy ei ddwylo fel y bydd plentyn yn chwarae gyda thywod.

Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.

Roedd dau bar ifanc o Kloten yn y caban gyda'u plant, fodd bynnaf, dyrnaid o fyfyrwyr o Wlad Belg, a dim ceidwad.

Yr unig sŵn oedd dyrnod pren ar bren a sloshian rhythmig wrth i'r clai gael ei daflu fesul dyrnaid i orchuddio plethwaith y waliau.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Am y dyrnaid o Fohemiaid y gellir eu henwi, dau hanner peint ac englyn braidd yn bethma oedd sail eu hanfarwoldeb!

Yr oedd pobl yn Nant-y-moel a arferai siarad Cymraeg, pobl mewn oed a dyrnaid o blant hŷn na mi, rhai a fynychai eglwys fy nhad.

Gwnaeth hyn eilwaith gan roi'r dyrnaid i Klon y tro hwn.