Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dysgedigion

dysgedigion

Gwrthododd llawer o'r dysgedigion mwyaf blaengar y syniad bod hanes yn amlygiad o gynllun mawreddog, a throesant yn ôl at yr olwg hiwmanistaidd ar hanes a oedd gan haneswyr Groeg a Rhufain.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Er enghraifft, yr oedd y dysgedigion, gwyr y Dadeni, yn falch odiaeth o'r Gymraeg fel un o'r ieithoedd clasurol; ond ar yr un pryd canmolai rhai ohonynt, megis William Salesbury, ymdrech Henry VIII i wneud y Saesneg yn iaith gyffredin rhwng y Cymry a'r Saeson.

Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.