Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyw

dyw

Dyw'r bobol ifanc ddim gyda ni bellach.

Dyw Taylor ddim wedi gwneud cwyn swyddogol yn erbyn Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

Wrth gwrs, dyw e ddim help bod chwech o'r tîm chwaraeodd ddydd Sadwrn yn chwaraeu hail gêm mewn pedwar diwrnod.

Dyw Trefnydd newydd Merched y Wawr ddim wedi bod yn aelod o'r mudiad erioed a'i phrif nod fydd denu'r to iau i ymuno.

wi!' ymbiliais, gan godi ar fy nhraed, 'Dyw hi ddim cynddrwg ^hynny, odi hi Delwyn?'

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Dyw hi ddim yn syndod felly fod Menem yn dal i fod yn wyliadwrus o fyddin bwerus Ariannin.

Ond dyw pobl yr oes hon ddim yn gweld hynny.' 'Dwyt ti erioed wedi dygymod â'r bywyd syml, Jonathan?

Dyw pethau ddim wedi bod yn hawdd i Gaerdydd yn erbyn y tîm o Orllewin Cymru yn ddiweddar.

'Dyw Adrian Shaw ddim yn chwarae.

Dyw pethe fel hynny ddim yn digwydd yn amal iawn y dyddie yma.

"'Dyw e ddim yn edrych yn lle mawr, Beti," meddai wrth ei wraig, "ond maen nhw'n dweud fod mwy na'i hanner e o dan ddaear - er mwyn diogelwch pe bai rhyfel yn dod, wrth gwrs." "Pe bai rhyfel yn dod, Idris?

Ond yn ôl Appleton ei hun, dyw hi ddim yn bendant y bydd e'n rhoi'r gorau i fod yn rheolwr y tîm cynta.

Dywedodd llefarydd Gwasanaeth y Carchardai: Dyw'r mater ddim yn ymwneud â thrin carcharorion.

Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y daeth yn arferiad cyffredin i roi olwyn sbar gyda charafanau newydd, a dyw hynny ddim yn digwydd gyda phob un hyd yn oed yn awr.

Bydd Awstralia yn gorffwys rhai o'u sêr ond dyw hynny ddim wedi gwanhau'r tîm fawr ddim.

Dyw rhai chwaraewyr byth yn cael y cyfle i chwarae yn erbyn Lloegr a'r Alban.

Ond o edrych ar sefyllfa Bangor, sydd eisoes wedi chwarae pedair gêm yn llai na phob clwb arall, 'dyw'r dyddiad yna ddim yn ymddangos yn ymarferol iawn.

Dyna'r rheswm fod siopau Tripoli mor fach; maen nhw fel rhesi o focsys esgidiau am ei bod yn anghyfreithlon i gyflogi cynorthwywyr, ac o'r herwydd dyw'r perchnogion ddim yn medru ehangu.

Mae'n llawer rhy hawdd cael benthyciad y dyddiau hyn, a dyw'r sawl sy'n rhoi'r arian yn aml iawn ddim yn poeni os bydd y ddyled yn faen melin am wddf rhywun, ac yn eu harwain i ddyfroedd dyfnion.

'Hefyd 'dyw hi ddim yn hawdd ennill yn Rhufain.

Dyw'r drws ddim wedi caun hollol arno fe eto.

Dyw sgorio ceisie ddim yn haws i Gymru chwaith.

Mae'n gwrthod arwyddo'r ochr Gymraeg i ddogfennau ac, yn rhyfeddol, dyw e ddim wedi cael cyfarfod o gwbl gydag aelodau'r Bwrdd.

Roedd hyn ddeng mlynedd a mwy, mae'n debyg, cyn Y Cyhoeddiad, ond dyw hi ddim yn hawdd mesur amser yn N'Og, fel y gwyddoch.

"Mae'n rhaid profi tystiolaeth trwy groesholi- dyw e ddim yn ddigon jyst gadael i farnwr ei asesu.

Ond, fel y cawn weld, dyw'r wers syml hon ddim wedi ei dysgu eto.

Dyw hyn ddim yn profi bod y gêm yn fwy mochaidd nag y bu.

Dyw ffilmio ddim bob amser yn broses dorcalonnus.

Erbyn hyn, a hithau'n hen gyfarwydd â phobol yn ei chyfarch fel 'Olwen', dyw hi ddim yn ceisio dianc rhag y cyhoedd.

'Dyw ei Gymraeg ddim cweit cystal â'i Sbaeneg, a hynny mae'n siŵr (yn hytrach, debyg gen i, nag unrhyw gysylltiadau â'r Wladfa) sy'n cyfri bod ganddo gyfrifoldeb dros Dde America.

Dyw'r Antur ddim yn sefyll yn stond - mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, ac ymdeimlad o hyder wrth gynllunio'r dyfodol hwnnw.

Dyw e ddim yn rhad ond maen ffordd o ddiogelu y bydd Cwpan Lloegr yn dod i Gaerdydd a bydde colli'r gystadleuaeth honno yn ddrutach o lawer.

Yn yr oes faterol sydd ohoni, byddai rhai'n galw'r gonestrwydd hwn yn styfnigrwydd, ond dyw'r cwmni ddim heb ragflaenwyr nodedig yn hyn o beth - roedd agwedd debyg yn nodweddu'r cwmni%au Saesneg llwyddiannus a enwyd ar ddechrau'r erthygl.

"Ond dyw e ddim yn erbyn y gyfraith i'n gwahardd ni." Geiriau o'r galon gan un o "leiafrifoedd" mwyaf niferus Gwledydd Prydain.

Dyw Siwsan Diek ddim yn teithio'n aml i'r 'ochr arall', a dyw hi ddim yn gyfarwydd â chymysgu ag Iddewon.

Dyw'r ham ddim yn edrych yn hapus iawn ''chwaith, atebodd Nellie.

'Dyw'r Stadio Flaminio ddim cymaint â'r meysydd eraill ond bydd croeso twym yno.

Mae hi'n llachar, mae hi'n lliwgar a dyw hi'n cymryd dim gwamalu, gan neb.

Dyw pethau ddim yn hawdd i'r Unol Daleithau ar daith ar hyn o bryd a falle bod y tîm rheoli Cymru yn gweld hwn yn gyfle i adeiladu ar yr hyn ddigwyddodd echdoe.

"Mae'n deimlad cymysg iawn achos mae rhywun wedi bod yma mor hir - mae cymaint o ffrindiau yma, cymaint o atgofion." Er ei fod yn cyfadde' iddo fod yn anfodlon gyda'i sefyllfa waith, dyw natur ei gytundeb gyda'r BBC ddim yn caniata/ u iddo ddatgelu rhagor.

O safbwynt y teithio dyw hynny ddim yn bell.

Ond dyw Elin ddim yn ymddangos fel ei bod yn poeni o gwbl.

Dyw'r bechgyn ddim yn disgwyl i fi wneud pethe felna.

Ys dywedodd Marti, 'Dyw annibyniaeth wleidyddol ddim yn bosibl heb annibyniaeth economaidd' - yr union beth sy'n amhosibl mewn gwlad fechan heb fawr o adnoddau naturiol cyfoethog.

Dyw'r Bwrdd ddim wedi cymryd yr agwedd gadarn a addawodd Dafydd Elis Thomas, meddai.

Dyw'r Gyrcas ddim yn cael yr un hawliau â milwyr Prydain er eu bod yn gwneud yr un gwaith," meddai.

Dyw'r ymosodwyr ddim yn ddigon galluog i ddryllior amddiffyn ac yn dilyn hyn gwelwch gemau anniddorol syn ein suo i gysgu.

Mae'n bwysig bod ni'n mynd mlân o hyn - dyw chware'n dda mewn un gêm ddim digon da - rhaid i ni wneud e am y pum gêm arall.

Oes, mae ffôn, trydan, ystafell molchi, a dþr o'r tap, ond dyw'r ddau ddim wedi plygu llawer mwy na hylmy i'r drefn o lanw cartref gyda moethusrwydd dianghenrhaid diwedd yr ugeinfed ganrif.

'Dyw ysgolion y llywodraeth ddim cystal,' meddai Siwsan.

dyw cerdd ddim yn dda am ei bod mewn cynghanedd gywir yn unig, dyw'r gynghanedd per se ddim yn cyflenwi cerdd â rhyw rinwedd.

Dyw hyn ddim yn wir.

Yn anffodus fe gollodd Morgannwg yn erbyn Indiar Gorllewin yng Nghaerdydd ddoe - dyw hynna ddim yn mynd i fod yn beth da iddyn nhw.

Ond dyw'r ymgyrchwyr o blaid y mesur heb roi'r ffidil yn y to eto.

Dyw e ddim yr un peth â pherfformio o flaen cynulleidfa fyw, chi ddim yn cael yr un ymateb." Er hynny dyw hi ddim yn edifar gadael Bobby Wayne a'r byd cabaret: "Er bod Bonnie yn fyd-enwog, rwy'n eitha' hapus gyda'r gŵr a'r bechgyn a'r tŷ ac rydw i wedi gweld lot o'r byd.

Hefyd 'dyw Caerhirfryn ddim wedi cael dechrau rhy dda i'r Bencampwriaeth.

Dyw mam ddim yn hoffi trefn y capelwyr o gladdu.

Dyw rhoi'r borfa ar y pallets ddim wedi gweitho, meddai Albert Francis, cyn-dirmon Parc yr Arfau ar y Post Cyntaf y bore yma.

Ond dyw hi ddim wedi sarnu'r llyfrau fel sy'n gallu digwydd weithiau pan fydd lluniau ar y sgrîn yn cymryd lle'r geiriau ar y dudalen.

Daeth Beti yn ôl i Gwmderi a 'dyw hi ddim wedi dychwelyd i'w chartre yn yr Amwythig byth wedyn.

Bedair blynedd ar ôl iddi ddechrau portreadu Olwen dyw hi ddim yn cael llawer o gyfle i wneud y cabaret mwyach, ac mae ei bywyd wedi newid tipyn.

'Dyw'r adeiladwaith, falle, ddim yn berffaith ond mae'n gam cywir a rwyn gobeithio nawr y bydd safon y gêm yng Nghymru yn codi.

Dynion ydyn nhw i gyd; dyw mam y plentyn na'r un fenyw arall yn bresennol.

Dyw dwster a Sheryl ddim yn taro deuddeg rhywsut, ond os na fydd dwster i fyny'i llawes, credwch chi, fe fydd rhyw gynllun craff fydd yn diddanu'r gwylwyr a thrigolion Pobol y Cwm.

'Dyw Graham Henry ddim yn credu mewn gwastraffu eiliad.

Hyd y gwn, dyw'r ysgolheigion heb weithio ar y cysylltiad rhwng patrwm y pleidleisio yn y ddwy refferendwm, ond mi led-greda'i fod cyfran uchel o'r rhai a bleidleisiodd dros y Cynulliad ymhlith y lleiafrif a bleidleisiodd dros ddod allan o'r Gymuned.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

'Dyw'r cyflesterau ddim yn ddelfrydol.

Ond maen nhw'n gallu bod yn gyfrwys; maen nhw wedi penderfynu gwneud y peth; dyw e ddim yn digwydd yn ad hoc," meddai Janet Boyce o Ysbyty'r Mynydd Bychan.

'Dyw'r feistrolaeth honno ddim cystal yn y baban, y ffaeledig a'r henoed ag yw yn y canol oed, gan nad yw'r ymateb mor gyflym.

Ble mae e nawr, 'ta beth?' 'Dyw e ddim ar y bws.

Dyw'r Llywodraeth erioed wedi rhoi dim i'r Gymraeg heb ein bod ni'n brwydro amdano.

Dyw Arwel ddim wedi gwneud dim byd o'i le, sgoriodd e gais pert a rwyn credu bod ei amddiffyn e wedi bod cystal â Neil Jenkins.

Dyw'r Gymraeg, y Fasgeg y Gatalaneg ayb, ddim yn meddu ar y statws hwn.

Dydy Killen ddim yn cael chwarae am mai chwaraewr Manchester City yw e a dyw Mardon 'chwaith ddim yn cael chwarae oherwydd na wnaeth e ymuno mewn pryd o West Brom.

Os yw'r sefyllfa yn Hartisheik yn wael, dyw hi ddim hanner cynddrwg ag yn Kebri Beya, y gwersyll nesaf ar y ffordd yn ôl i Jijiga.

dyw hyn ddim yn golygu nad ydw i ddim yn gallu ymateb yn gadarnhaol i waith llenorion crefyddol.

Sori, dyw'r cyfeiriad neu ddolen a ddaeth â chi yma ddim yn gywir.

Dyw'r diwydiant ymwelwyr ddim o les mawr i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin, fodd bynnag.

Dyw'r mesur ddim yn farw eto, a ry'n ni'n benderfynol o godi ymwybyddiaeth pobol o'r hyn sy'n digwydd." Dywedodd bod yr agwedd negyddol hon yn ymestyn at bobol gyda phob mathau o anabledd, nid anabledd gorfforol yn unig.

Fe leicsen i ddweud dyw Pwyllgor y Llewod ddim wedi gwneud penderfyniad eto, a fel dwin deall y sefyllfa, byddan nhw'n gwneud hynny ddechrer mis nesa.

Rwyn credu byse hi'n well se ni wedi gorffen Gemau Heineken i gyd ond dyw hwn ddim yn rhywbeth estron i ni.

fe ddywedodd un o'r Cwrdiaid wrth'i, 'John Major promised us a hammer, where is the hammer?' Dyw'r safe haven y soniodd y Prif Weinidog amdano ddim yn bodoli...

Ond yn ôl Sian Frost, dyw'r cymorth ariannol fydd ar gael yn aml ddim yn ddigon.

Dyw'r boi ddim yn yrrwr da iawn - sy'n beth od ac yntau'n amlwg yn broffesiynol.

Dyw Baulch ddim yn cystadlu yn y râs 400 metr unigol.

Erbyn cyrraedd colegau Prifysgol Cymru dyw pethau ddim wedi gwella ers y pumdegau a'r chwedegau, fe gewch chi wneud Cymraeg, Hanes, Ysgrythur a Daearyddiaeth os ydych chi'n lwcus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna ni.

'Dyw e ddim gwerth y trwbwl, Dil,' sibrydodd Ifan yng nghlust ei ffrind.