Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywallt

dywallt

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac ddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn.

O gael ei rhyddhau ar brawf o garchar maen fwg ac yn dân dros wneud popeth i'w hamddiffyn - yn bennaf trwy dywallt arian i gartref cwn y mae Kevin Shepherd (Ioan Gruffudd) yn ei redeg.

Rheswm arall a roddir am dywallt gwaed, fel yn achos yr ymosodiad ar Shadrach Lewis, oedd dicter yn erbyn person am iddo drosglwyddo gwybodaeth i'r awdurdodau neu dystiolaethu mewn llys barn yn erbyn troseddwr: '...

Doeddwn i ddim yn ffansi%o llawer arno a hefyd yn meddwl: Beth pe tase pawb yn penderfynu chwythu yn lle sugno, ach a fi !' Nid oedd y calabash yn dal llawer ond bob hyn a hyn, deuai un o'r dynion o'r cefn gyda llond tegell o ddŵr poeth a'i dywallt i'r gwin.

Roedd gan Mop wyneb gwritgoch a gwallt fel gwrych heb ei docio, ac roedd gwallt Jaco'n llyfn fel petai can o olew wedi ei dywallt arno.

Dim aros i'r tecell ferwi, dim slempian wrth dywallt y dŵr i'r twbyn.

Yn awr, bydd disgwyl i'r wlad dywallt arian dirifedi i arbed y sefyllfa.

'Rhywbeth na fedra i ddim gwneud mynydd mawr ohono, gobeithio,' meddai Rhian yn hapus, wrth dywallt gweddill y siampên i'r gwydrau.

Yr oedd cyffredinolrwydd profiad iddo yn un o'r meini prawf: Pan gyfyd dyn i ganu mewn cynulleidfa y mae i dywallt ei enaid i drysorfa gatholig o fawl.

Erbyn heddiw mae modd rheoli'r pryfyn trwy chwistrellu neu dywallt gwenwyn pryfed ar y cefn ond erys trochi'r defaid mewn cymysgedd o ddŵr a'r gwenwyn priodol am funud cyfan y ffordd fwyaf o gaw'r clafr dan reolaeth.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

Cofeb i fuddugoliaeth heb dywallt gwaed yw cofeb Maes Garmon.