Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dyweder

dyweder

Pe baech wedi cael cwestiwn ar Owain Glyndwr, dyweder, neu Williams Pantycelyn, neu O.

A thuedd rhai pobl o hyd yn y fan honno yw ystyried unrhyw daith gan y car recordio, dyweder, y tu hwnt i Bontypridd fel rhyw fath o saffari.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.

Ac wrth gwrs yr oedd Elias, Williams a Christmas yn grwydriaid mawr (yn wahanol, dyweder, i Griffith Hughes, y Groes- wen) a llawer mwy o bobl o ganlyniad yn dod o dan eu dylanwad.

Efallai y byddai yn rhagorach cyfrol o fod wedi closio at arddull y nofel, dyweder.

A ydyw'n talu i'r perchnogion roi eu harian yn y fenter yn hytrach na'i osod, dyweder, yn stoc y Llywodraeth?

Mae prinder yr elfennau cyffredin yn amlwg os cymherir perthynas y testunau â'r berthynas sydd rhwng Geraint fab Erbin, dyweder, ac Erec et Enide Chre/ tien de Troyes.

Yn y dyddiau hynny roedd bron bellter y pegynau rhwng, dyweder, Llanbedr neu Landeilo a Thyddewi.

I ddibenion gwyddonol, y mae'n gwbl briodol inni ynysu'r wedd gemegol, dyweder, ar beth bynnag yr ydym yn ei astudio.

A hyd yn oed pe cyfeiriem at ffigur llai trawiadol byth yn hanes ein llenythiaeth, Alun Cilie dyweder, ni feddyliem arddel y fath derminoleg byth bythoedd.

Nid ydym wedi llwyddo fel y dymunem i wneud heddychiaeth yn rhan gynhenid o'r foeseg Gristionogol, fel, dyweder, geirwiredd neu ddiweirdeb.

Mae'n wir na all emynau Elfed fyth gystadlu ag ysblander rhai o emynau Ann Griffiths, dyweder.

'Roedd siwgwr yna arfer costio punt y kilo, dyweder, ond rwan mae kilo yn costio can punt!

Wrth wneud cyllideb am flwyddyn, yn aml fe wneir amcangyfrif manwl am dri mis, dyweder, ac un brasach am weddill y cyfnod.

Wrth gwrs, y mae geiriaduron beiblaidd yn ailadrodd ei gilydd - wedi'r cwbl, nid oes llawer o le i wreiddioldeb wrth sylwi, dyweder, ar Jathniel neu Merathaim.

Meddwl yr oeddwn i y byddai llawer cae arall eto yn etholaeth Mr Rod Richards yntau (dyweder), tua Colwyn Bê, sydd ag ychwaneg o le i bacio rhai o'r rheiny yno: i abersochio rhyw fymrn ar y lle.

Go brin y bydden nhw'n ffansïou lwc yn erbyn rhywun mor nobl a Helen Mary Jones, dyweder.

Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.

Maent yn trawsnewid o un peth i'r llall, yn amrywio eu llwybrau, a'r cyfan yn symud ar gyflymderau mor anferth fel na ellir byth wybod yn fanwl, er enghraifft, ymhle'n union y mae electron, dyweder, ar ei chylchdro.

Pa mor wahanol felly yw'r gwyddonydd a'r bardd, sy'n galw'i sinthesis yn soned neu delyneg, dyweder.

taswn i wedi galw'r ddirgel ddynes yn joanna southcott dyweder, fe fyddai yna adleisiau ond nid cymaint i'r cymry, hwyrach.