Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dywedid

dywedid

Un parod efo'i ddyrnau oedd Owain Goch yr hynaf ohonynt ond am yr ail fab dywedid bod hwn yn graffach na'i gyfoedion.

'Roedd sibrydion am Littlemore eisoes ar led; dywedid fod Newman wedi'i lunio ar ffurf mynachlog.

Dywedid hefyd fod y cyfarfodydd gweddi min nos, a'r gyfathrach a ddilynai wrth ddychwelyd adref, yn ei wneuthur yn waeth.

Dywedid ei fod yn cynllwynio'r olyniaeth yn ei fab Dafydd, ond pan fo symudiadau'r amseroedd ac uchelgais dynion fel olwynion yn troi, ni all neb warantu'r un ufudd-dod yn ei farwolaeth.

Pe gofynnech pwy oedd y gwr hael hwnnw, efallai y dywedid wrthych mai Deon ydoedd a'i fod yn trigo yn Westminster, yn Llundain, ar un cyfnod.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Dywedid y gallai un o'i gyndeidiau gerdded ar draws y sir heb roi ei droed ar dir neb arall.

Dywedid mai cael rhyw afiechyd mawr pan yn ifanc a barodd y dull o fyw rhyfedd a gymerodd.

Dywedid fod y tad wedi gadael y cartref, a bod y fam yn ddihidans iawn o'i mab.