Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ebill

ebill

Er enghraifft meddyliwch am ddau lawchwith ymlaen; wedi i un fod yn tyllu am sbel a'r llall yn troi'r ebill a rhoi dwr, maent yn penderfynu newid drosodd, wel gan fod y ddau yn llawchwith, mae'n rhaid newid lle ar y platform er mwyn i'r dyn sy'n taro fod yn ddethau, ond petai o'n medru iwsio'i law dde ni fuasai angen newid lle.

Dylaswn fod wedi dweud eu bod yn gorfod iwsio dwr hefo'r tyllu yma er mwyn cadw'r ebill rhag poethi.

Wedi penderfynu lle'r oedd y twll i fod, roedd un dyn yn dal ebill haearn, wedi ei finio fel diemwnt, a'r llall yn taro'r ebill, ac yntau yn ei droi ar ôl pob trawiad.

Maent yn dechrau tyllu hefo'r ebill a alwant yn Bitcher; pitch yn golygu dechrau'r twll.

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Gwaith budr iawn ydi hwn gan fod y dwr yn y twll a'r dyn yn taro ar yr ebill nes bydd y dwr yn sblasio i bob man.