Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

echdoe

echdoe

Ni fydd mewnwr Llanelli, Guy Easterby, yn gallu chwarae am o leia chwe wythnos ar ôl torri ei goes yn erbyn Castell Nedd ar Y Strade echdoe.

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel.

Roedd yn Llundain, yn loncian yn gynnar fore echdoe, pan ddaeth yr alwad iddo ddod i Gaerdydd i lenwi yn rhaglen neithiwr.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw asgellwr dawnus Caerdydd, Craig Morgan, yn cael ffafriaeth ar ôl disglleirio a sgorio dau gais gwych dros ei glwb echdoe.

Mae Bangor yn parhau ar y gwaelod ar ôl cael cweir, 4 - 0, yng Nghaerfyrddin echdoe.

Dyw pethau ddim yn hawdd i'r Unol Daleithau ar daith ar hyn o bryd a falle bod y tîm rheoli Cymru yn gweld hwn yn gyfle i adeiladu ar yr hyn ddigwyddodd echdoe.

Sgorion nhw 548 cyn cau eu batiad cynta echdoe.

"Bu mam farw echdoe," meddai'r dieithryn.

Ar ôl llaw-driniaeth echdoe maen awr yn sicr y bydd Taylor mâs am o leia chwe wythnos, ac fe allai fod mâs am gymaint â thri mis.

'Uw, glywaist ti am y perfformans oedd yn Nant Bella echdoe?

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi esgyn yn ddiogel i Ail Adran Cynghrair y Nationwide diolch i gêm gyfartal, 3 - 3, ar faes Caerefrog - York City - echdoe.