Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.
Y tu ôl i'r amrywiol wyddorau, y tu ôl i brydferthwch, y tu ôl i economeg, y tu ôl i'n perthnasau cymdeithasol a'n hymwybod â hanes, y mae'r gwreiddyn y tarddant i gyd ohono.
'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.
Yr ydym yn gyfarwydd â nifer mawr o ddiffiniadau o'r pwnc, yn amrywio o ddweud mai 'Economeg yw'r hyn y mae economyddion yn ei wneud', i'r disgrifiad hwnnw sydd yn sôn am rannu adnoddau prin rhwng galwadau niferus.
Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.
Mae'n sicr bod economeg Keynes wedi bod o fudd mawr i ddeall amryfal droadau'r economi, ac wedi cyfarwyddo aml i bolisi ar gyfer chwyddiant a datchwyddiant.
Y mae llawer yn dwyfoli eu rheswm eu hunain, neu ddeddfau economeg, neu arian.
Nid oes digon o sylw yn cael ei roddi i'n gwybodaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei fesur, ac ni ddylai natur arbrofol llawer o'n ffeithiau canolog gael ei boddi gan geinder techneg fodem economeg.
Gallwn gredu fod economeg yn bwysig ond nid yw economeg ar ei phen ei hun yn ddigon i dreiddio i ddirgelwch lliw'r rhosyn na llesmair ei bersawr.
Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.
Ym mywyd yr hen ŵr hwn mae'r traddodiadau y seiliwyd diwylliant ac economeg y gors arnynt wedi'u gwyrdroi.