Y mae gennym lawer iawn o bethau i edifarhau amdanynt ymhlith y pethau a wnaethom llynedd.
Trwy ymbil tros yr ieuenctid cawn gyfle i edifarhau am ein diffygion yn ein perthynas â hwy.
Ond gyda hanner munud yn weddill, bu oedi yn amddiffyn Wrecsam a sgoriodd Connor ei ail gôl a Wrecsam yn edifarhau am fethu'r holl gyfleon.
Roedd un o ohebwyr ITN yn amlwg wedi ei ysgwyd pan ddywedodd mewn darn i gamera ei fod yn edifarhau ei fod yn newyddiadurwr yn hytrach na meddyg!
b) Y syniad offeiriadol am ddiymadferthedd dyn yn wyneb pechod, ac felly'r angen am i Dduw fynd allan i chwilio am y pechadur sydd heb edifarhau, fel yr â'r bugail i'r anialwch i geisio'r un ddafad golledig;
Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!
A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.
(b) Pan ddaeth yn Gristion, bu iddo edifarhau am ei bechodau, ac fe olchwyd y beiau i ffwrdd trwy waed Iesu Grist.
Dim felly i Diane, sydd eisoes yn edifarhau'r dydd y gwelodd Steffan am y tro cyntaf.
Carreg filltir yw blwyddyn newydd, cyfle i orffwys, cyfle i fyfyrio, cyfle i edifarhau, cyfle i ymadnewyddu.
Nid oedd wedi edifarhau.
Ac yn ail, os na fedrai Elsie newid y rhestr i gynnwys Hannah, gwraig Huw, a Rubi capel ni i ymuno â ni ar bob twrn, yna, 'doedd hi, bellach, ddim yn awyddus i barhau yn aelod o gangen y League of Friends A'i bod yn edifarhau am ei bod wedi ymuno am oes.