Yr oedd Edmwnd Prys yn ddi-os yn un o Gymry gloywaf ei oes.
Sicrach - er nad cwbl sicr - ydyw fod bachgen arall addawol o dref Llanrwst ei hun, sef Edmwnd Prys, wedi bod yn ddisgybl gydag ef wrth draed caplan Gwedir y dyddiau hynny: yr oedd Prys ryw flwyddyn yn hyn na Morgan.
A hwythau tua'r un oed, tybed a oedd Edmwnd Prys a William Morgan yno gyda'i gilydd?
Wel, dyna Feibl William Morgan - heb anghofio cymorth Richard Vaughan, David Powel, Gabriel Goodman, Edmwnd Prys, a William Salesbury.
Y mae'n bosibl i Edmwnd Prys fynychu ysgol ramadeg, ond y mae'n llawn mwy tebygol mai derbyn hyfforddiant preifat a wnaeth.
Os yw hynny'n wir, nid yw diolch yr Esgob Morgan, na diolch Cymru, ronyn llai iddo, oblegid ef oedd arloeswr y gwaith a da gan un o bennaf ysgolheigion ein hoes ni ei alw yn "Gymro mwyaf ei oes." Un arall o gynorthwywyr yr Esgob Morgan oedd Edmwnd Prys.
Yr oedd ei dad yn gyfyrder i William Salesbury, ac yr oedd cysylltiadau teuluol rhwng Edmwnd Prys a'r beirdd Tudur Aled a Siôn Tudur.
Gwyddom bellach mai un o blwyf Llanrwst oedd Edmwnd Prys, ac mai yno yr oedd cartref ei dad a'i daid.
Offeiriad oedd Edmwnd Prys, yntau, person Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd.
Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.