Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edmygu

edmygu

Unwaith eto allwn i wneud dim ond edmygu dewrder y gwragedd yma a cheisio cyfleu'r ffordd urddasol y maen nhw wedi dygymod â'r sefyllfa a dechrau bywyd newydd yn wyneb caledi mawr.

Honwyd fod Saunders Lewis yn edmygu Franco.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr y grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Ac edmygu'n fawr cymaint yr oedd ei ffydd hi'n ei chynnal yn wyneb y fath beryglon.

Safodd y tri'n edmygu.

Hawdd yw edmygu pob un o'r creaduriaid hyn ond annisgwyl braidd yw'r toreth o lenyddiaeth a gyhoeddwyd yn flynyddol sy'n ymwneud a hwynt.

Rhaid cofio rhain i gyd; a chyn i rhywun droi mae'n lli Awst a'r eogiaid yn rhedeg yn gyson am y llednentydd - a dyma ni wedyn hyd ganol mis Hydref yn prysur edmygu a gwerthfawrogi cynnwys parsel arall.

Ceir cyfle hefyd i'r ymwelydd edmygu dewrder a phwysigrwydd gwaith Cymdeithas y Badau Achub ym Môn, yn enwedig cyfraniad Richard Evans a enillodd ddwy fedal aur yr RNLI.

Er mai gelyn iddo oedd Douglas Bader, yr oedd wedi edmygu ei ddewrder ers blynyddoedd.

Ar y cyfan, mae'n nofelwyr hanes yn frid i'w edmygu, gan mor broffesiynol ydynt yn eu hagwedd at eu gwaith.

gwyliodd y tri ef yn cropian ar ei fol ar hyd y gangen, a rhaid oedd edmygu ei ddewrder.

Ni ellid disgwyl i berson dysgedig Llangadwaladr a Rhydycroesau edmygu Penri.

Wedi ysbaid yn edmygu gwaith cywrain yr arlunydd bywyd gwyllt, ceir cyfle i gael blas ar fywyd yn ystod Oes Newydd y Cerrig wrth gerdded i mewn i dywyllwch siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Aberffraw.

roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl.

'Rwy'n cofio edmygu ei dawn i blygu popeth, ac wedi i mi ei phriodi, 'rwy'n dal i edmygu'r ddawn arbennig hon o ofalu am bob dernyn o ddillad a'i blygu'n berffaith.

Rwy'n edmygu'r ffordd y mae BBC Cymru wedi ymateb i'r sialensau a'r cyfleoedd mawr sydd wedi dod yn sgîl technoleg newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

ta beth, mae na bobl dda sydd ddim yn grefyddol o gwbl a dwi'n edmygu'r rheina yn fwy achos dydyn nhw ddim yn disgwyl rhyw wobr yn y nef.

Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, 'roedd Syr Ben Bowen Thomas yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, yn edmygu'r Llyfrgell yno, a gofynnodd pwy oedd yn gyfrifol.

Bydd yn mwynhau ei chysgod ar ddiwrnod poeth; bydd yn dotio at liwiau a ffurfiant ei dail; fe wêl yr adar yn trydar ynddi a gyda'r nos bydd yn llawn syndod wrth edmygu ei ffurf yn erbyn cochni'r machlud.