Edrychai'r Doctor Ymennydd arnaf yn reit slei: ac efallai ei fod yn meddwl fod pawb yn mynd yn rhyfedd ar saffari.
Bob tro yr edrychai arni, cyffyrddai â'i llaw.
Yr oedd wedi gosod y safon iddo ef ei hun mor uchel fel yr oedd ei ddiffygion yn wastadol ger ei fron; ond edrychai ar eraill, nad oeddynt, yn ôl fy meddwl i, yn haeddu eu cymharu ag ef, gydag eiddigedd.
Edrychai'r tri arno'n dawel.
Safent ym mhobman yr edrychai.
Ac i ble'r wyt ti'n mynd rwan?' 'Yr ydw i wedi cael gwahoddiad i dy Emrys i de.' 'Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno.' Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn.
Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.
Edrychai arnaf yn rhyfedd cyn troi i fynd i'r gegin gefn fel pe bai arni ofn i mi ei dilyn ond er mod i dest a marw eisio cael sbec ar y dynion yn y parlwr, ymateliais.
Doedd dim lliw yn ei hwyneb ac nid edrychai'n rhy iach.
Edrychai Emli braidd yn anniddig, a hytrach yn betrus hefyd.
Edrychai'n fawr a bygythiol ...
Credai ef mai gweithred o eiddo rhagluniaeth oedd y Diwygiad Protestannaidd edrychai ar Eglwys Loegr fel adran o'r wir eglwys, a bu'n locs iddo ddarganfod fod Newman mor feirniadol o'r Diwygiad â Hurrell Froude.
Yn wir, edrychai'n debyg iawn i wraig o gþyr, yn dianc rhag bwyell llofrudd yn siambr uffernol Madame Tussaud.
Pregethau Sulwyn Jones, ai e?' Edrychai fel petai ar fin bod yn sâl.
Ar ogwydd felly, edrychai'r bonet bach yn debyg iawn i'r llewyrch hwnnw a beintir o gylch pennau saint mewn hen ddarluniau.
Gwisgai lifrai llwydwyrdd, ac yng ngolwg y plant edrychai yn bwysig iawn.
'Pwy soniodd am ei throi'n ôl yn fenyw?' crechwenodd y gath, ac edrychai'r gwrachod hwythau yn blês iawn.
Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.
Pan gydiai fy mam yn ei llyfr hi, fodd bynnag, credaf mai o chwithig, megis, yr edrychai arno.
O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch.
Belka, Chernysh - arhoswch chi fan hyn!' Edrychai'r ddau gi yn anfoddog wrth i'w meistr gychwyn i ganol y storm eira.
Edrychai'n ddigon di-niwed, ond dywedwyd wrthym bod rhannau helaeth ohono wedi ei blannu â ffrwydron.
Edrychai fel pe bai wedi dychryn.
Rhedai ei llaw yn aml drwy gnwd o wallt coch a oedd bob amser ag angen ei gribo, ac edrychai arnom mewn distawrwydd cyn dechrau, y llygaid fel pinnau glas mewn papur gwyn.
Efallai mai fel hyn yr edrychai'r gaer ar Ben- dinas, gerllaw Aberystwyth, yn yr hen amser.
Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.
Edrychai ar ei wyneb am arwydd ei fod yn mynd i ddeffro cyn i'w wraig ddychwelyd o'r gegin.
Edrychai pawb yn syn ar Douglas Bader yn dringo i'r awyr fel eos.
Edrychai J.
Safwn o flaen y dyn pen moel yn y siaced law denau, trywsus brown golau, crys brown golau; edrychai fel pawb a neb, meddyliais, a dim.
Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.
Edrychai popeth yn normal iawn ...
Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.
Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!
Nid oedd dim byd yn arbennig o atyniadol yn y set ac edrychai braidd yn ddiflas yn erbyn cefndir wal werdd y theatr.
Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.
Edrychai Rhys ymlaen at yr amser pan gâi o ymuno yn sgwrs y bechgyn, gan frolio campau ei gi o.
Gwyrai'n ddistaw gan ofalu bod y nyrs arall a edrychai ar ôl y ward yn ddigon pell.
Yr oedd ganddi ddannedd bach, gwyn, ac edrychai ar eu hol yn dda.
I fynd at wraidd y gwahaniaeth rhwng pobl a chenedl, y mae'n rhaid cofio yr edrychai Israel arni ei hun fel cymundod o deuluoedd.
Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.
Edrychai Sylvia'n feddylgar.
Pan nad oedd El Presidente'n agor ei geg, fe symudai ei draed yn aflonydd neu edrychai ar ei wats.
Yn tarddu o gopyn y pen hwnnw roedd dau dwred tal a edrychai fel par o gyrn arsgwar.
Edrychai fel mynydd mawr, ei wallt fel brigau coed a'r un llygad yng nghanol ei dalcen fel olwyn cart; yn ei law daliai ordd anferth ac iddi flaen haearn, trwm.
Edrychai Dad yn feddylgar.
Dwi ddim yn mynd.' 'Ond mae'n rhaid i chi.' Edrychai'n bryderus.
Cyn datblygu ffotograffiaeth edrychai seryddion ar y ddelwedd a gwneud llun llaw ohono â phapur a phensel.
Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.
Roedd hi wedi plastro rhyw stwff gwyn anghynnes ar ei chroen cyn mynd i'w gwely ac edrychai ei phen fel coedwig o gyrlars pigog.
Yn sydyn ryw fore llamodd y bêl i ben bryn a edrychai dros ddyffryn eang, a gwelodd Idris, o'i dilyn, olygfa ddigalon iawn.
Roedd hi mor fawr fel yr edrychai'r bobl oedd i fyny ar ei man uchaf cyn lleied â morgrug.
Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.
Er hyn oll, unwaith y gollyngwyd ei ddwylo'n rhydd, edrychai ymlaen i'r dyfodol yn ddibryder, gan ddyfalu'n dawel.
Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.
Edrychai'r ddau ymlaen at dawelwch y wlad.
Ond edrychai Modryb yn fodlon braf, ac ar ôl gweu dwy neu dair modfedd, aeth i glwydo'n gynnar.
Edrychai'n lliprynnaidd a digalon, a dychwelodd fy nghyfarchiadau mewn llais dwys ddifrifol.
Edrychai'r carchar iddo ef yn lle caled a haearnaidd heb gwmni merched, yn lle oer heb eu lliw, eu llun, a'u lleisiau.
Gallai sgwario wrth fynd allan o'r ystafell a rhoi gwen dadol yma ac acw ar amryw a edrychai i'w gyfeiriad.
Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.
Ar y pryd, edrychai yn beth digon rhwydd i ddarganfod y peirianwaith sylfaenol a reolai weithgaredd silia.
Edrychai o'i gwmpas yn nerfus rhag ofn i Marian ddod.
Edrychai'r Tractariaid i gyfeiriad John Keble a'r Athro Pusey.
Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.
Hen wraig annwyl a alwem Betsan Hughes a edrychai ar ol y capel pryd hynny.