Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

edrychid

edrychid

Edrychid ar Sam gan ei ffrindiau fel un wedi drysu am ei fod yn sôn am "ddefaid y Ci Drycin", sef y cymylau, ac am g vmwl yn tisian, am y ferch ledrithiol yn galw arno--"Fachgen

Edrychid ar y llys brenhinol yn ganolbwynt cymdeithas a llywodraeth ac yn noddfa grym a chlod.

Edrychid ar Feirdd Ynys Prydain fel brawdoliaeth rydd o feirdd a ddaethai, trwy gael eu hurddo mewn gorsedd, i mewn i'r olyniaeth farddol oesol.

Yn gyntaf oll, disgwylid iddo reoli'n dda ac, yn ail, edrychid arno fel un a roddai esiampl i eraill o'i 'berffeithrwydd' (neu o leiaf ei ddehongliad ef ohono) er mwyn gwneud dynion eraill yn dda.

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Testun dirmyg oedd y Crynwyr gan mwyaf, ond yn y blynyddoedd ar ôl pasio Deddf y Tai Cyrddau edrychid arnynt gydag ofn hefyd.

Edrychid gyda chymeradwyaeth ar bob cynnydd, pa ffordd bynnag y'i cenhedlid.

Edrychid ar ddiwylliant clasurol yn gyfrwng gwasanaeth ac yn sail y bywyd gweithredol y disgwylid i'r bonedd ei fabwysiadu.

Yn y cyfnod hwn edrychid ar addysg elfennol i'r ferch fel cyfrwng i'w pharatoi i fod yn wraig tŷ a mam effeithiol.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.