Fe edrychir yn gyntaf ar nodweddion y prif ffactorau, sef hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth, ac yna edrychir yn fanylach ar y berthynas rhyngddynt.
Mae cyrn yn un o'r nodweddion yr edrychir arnynt wrth ddethol hyrddod Mynydd Cymreig.
Edrychir ymlaen i weld y bylbiau yn gwthio drwy'r pridd a thyfu'n arddangosfa liwgar.
Yn hytrach edrychir gyda rhyw dirionwch rhadlon ar ryfeddod (yn yr ystyr lythrennol) bodolaeth dyn.
Yn yr erthygl yma edrychir ar rai o'r datblygiadau, a gellir eu rhannu'n syml i dri maes: datblygiadau mewn asesu a mesur, datblygiadau cenhedlu, a datblygiadau dadansoddi.
Pan edrychir ar restr gyflawn o weithiau Elfed, un peth sy'n taro dyn ar unwaith yw pa mor gyfartal, yn ieithyddol, ydoedd swm ei gynnyrch.
Edrychir ymlaen am gael cymorth y rhieni i gynnal y gangen.
Os edrychir ar astudiaethau Idris Foster neu Proinsias Mac Cana ar y chwedl, neu ar lyfr Kenneth Jackson ar The International Popular Tale and Early Welsh Tradition, fe geir llawer o ddadansoddiadau motifaidd, yn olrhain y themâu ystoriol sydd yn y gwaith, ac yn gwerthfawrogi dawn dweud y cyfarwydd(iaid) a'i lluniodd a'i goethi.
Os edrychir yn haniaethol ar 'bethau byw', gwelir bod eu cymeriadaeth yn dibynnu ar faint o ryddid sydd gan unrhyw organeb i ddewis a dethol rhwng posibiliadau gwahanol.