Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

efengylaidd

efengylaidd

Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd oedd cynysgaeddu Cymru â dosbarth newydd o arweinwyr i ddisodli'r hen bersoniaid a'r sgweiriaid, sef, y gweinidogion, y pregethwyr, y blaenoriaid a'r personiaid llengar.

Os ydi'r Capeli a'r Eglwysi mewn lle mawr fel Bangor neu Aberystwyth, er enghraifft, yn penderfynu uno, a bod y capeli Pentecostal, Efengylaidd, yn Saesneg eu hiaith, beth fyddech chi'n dweud wrth y Cymry Cymraeg?

Ai Thomas Jones o Ddinbych hyd yn oed yn bellach yn ei Ferthyr-draith wrth geisio portreadu'r traddodiad Methodistaidd ac Efengylaidd fel estyniad o'r olyniaeth wir Gatholig sy'n ymestyn tros y canrifoedd.

Gyda'r Diwygiad Efengylaidd dychwelodd yr hen wefr.

Y demtasiwn fawr ar hyn o bryd, wrth geisio esbonio'n hanesyddol sut y daeth y Diwygiad Efengylaidd, yw dadansoddi'r daioni a'i rhagflaenai a thynnu'r casgliad fod y Diwygiad yn gynnyrch anorfod y daioni hwnnw.

Cyfrannodd hefyd at ddyfnhau dylanwad y Diwygiad Efengylaidd ar fywyd Cymru.

Ar un o'r ystadau hyn yn ardal Pentwyn ceir eglwys arbennig iawn sydd wedi llwyddo i wreiddio'r argyhoeddiad efengylaidd ymysg y gymdeithas.

Nid oedd ei sel efengylaidd wedi ei gyfyngu i'r Cymry un unig, gan iddi ddylanwadu yn fawr ar yr Undeb Eglwysi i wahodd cenhadwr Spaeneg i bregethu i'r "natives", fel y byddai hi'n dweud.

Droeon yn ystod ei yrfa newidiodd ei liw diwinyddol er na chrwydrodd yn bell oddi wrth y Galfinyddiaeth efengylaidd honno a oedd yn brif ysgogiad ei waith.

Newydd-hen, fd y mudiad ei hun, oedd y llenyddiaeth, newydd ei phwys a'i phwyslais a'i Dais, ond Ryda llawer o'i chynnwys yn deillio o'r Beibl, o w~ith clasurwyr yr Eglwys, o waith Milton a Bunyan a Phiwritaniaid eraill, ac awduron y mudiadau efengylaidd cyfoes yn Lloegr, yr Alban, a Lloegr Newydd.

Daw'r Athro Glanmor Williams yn agos iawn at ddweud hyn yn y gosodiad fod y Diwygiad Efengylaidd wedi dod "in the same way as the Reformation, not because of an absence of religious emotion but as the result of an abundance of it" [td.

Cyfnodolion Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd a'i bwyslais ar y Beibl, yn ogystal â chynnydd yr Ysgol Sul, oedd creu miloedd o ddarllenwyr newydd.

Ymhlith Bedyddwyr y De ceid gwrthwynebiad o fath gwahanol i'r dylanwad Efengylaidd a'i Galfinyddiaeth.

Ac a allwn ni ddiystyru'r anobaith ingol a fynegodd Jeremi Owen mor huawdl yn ei Ddyledswydd Fawr Efengylaidd?

Yn ei dro bu'n gadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon ac yn llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Cyffordd Llandudno.

A chadwodd ei gyswllt â'r arweinwyr Efengylaidd yn Lloegr tra bu byw.

Er hynny, yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn dod fwyfwy o dan ddylanwad y Diwygiad Efengylaidd ac yn mabwysiadu dulliau efengylu a oedd yn gyffredin iddynt hwy a'r Methodistiaid.

Er enghraifft, mae gen i gyfeillion sydd wedi troi yn Efengylwyr, sydd wedi penderfynu, er eu bod yn Gymry Cymraeg, fod yn well ganddyn nhw fynychu Capel Saesneg gan fod hwnnw'n Gapel Efengylaidd, yn llawn hwyl a sbri ac ati.

Ymhlith y Bedyddwyr gwelwyd adwaith yn erbyn y dylanwadau Efengylaidd.

Dyma sylfaen eciwmeniaeth efengylaidd Wroth, Cradoc, Llwyd, Henry Walter a'r gweddill ohonynt.

Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.