Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

effeithiau

effeithiau

Canlyniad effeithiau polisi%au y llywodraeth bresennol ar Gymru yw hyn, meddai hi.

Fel sy'n digwydd mor aml yng nghwrs hanes, yr oedd effeithiau llafur dynion yn cyrraedd lawer iawn ymhellach na'u bwriadau hwy.

EFFEITHIAU: AWYR, DWR, SWN UCHEL A DIRGRYNIAD Y TIR: Arolygir y rhain yn uniongyrchol gan y Grwp a chan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Dosbarth.

Pan oeddwn i yno, cafodd ei neilltuo ar gyfer plant o Chernobyl oedd yn dioddef o effeithiau ymbelydredd.

Fe leddfwyd peth ar effeithiau mwy crafog y gwahaniaeth ieithyddol.

Un o sgil-effeithiau'r cynnydd hyn yw bod y broses o wylio teledu wedi newid.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

bydd y cwest yn parhau am fisoedd ond yr effeithiau am gryn dipyn yn hwy na hynny.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Dibynna yr amrywiaeth llystyfiant i raddau helaeth ar natur y creigiau ac effeithiau Oes yr Iâ arnynt.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Yr oedd y pryf yn y pren i'w weld yn eglur iawn i'r sawl a oedd yn berchen ar lygaid i ganfod yr effeithiau chwarter canrif yn ôl, cyn i'r Rhyfel dorri allan.

yn sicr bydd effeithiau colli'r gêm hon yn bell-gyrhaeddol a'r cwestiwn mawr sy'n codi yw'r un ynglŷn a dyfodol terry yorath.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Ond tra mae Lenz yn ymwneud ag effeithiau'rsiom a deimlai Schneider a nifer o'i gyfoedion wedi chwalfa'r mudiad mawr, mae'n diweddu ar nodyn positif.

Gall recordydd fideo recordio'r sain yn ogystal â'r llun, fel bo'r lluniau a'r siarad neu'r effeithiau sain yn cydamseru'n berffaith.

GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.

Ond yr oedd agwedd amaethwyr yn bur wahanol; er mor atgas ac erchyll oedd effeithiau Myxomatosis, yr oedd pob amaethwr cydwybodol a gawsai brofiad o ddifrod cwningod, yn ei groesawu.

Y mae effeithiau eithaf a gwaethaf yr arferiad mor eang ac amrywiol fel y mae yn amhosibl rhoddi cyfrif o'u nifer na mesur i'w hehangder."

Yr un fuasai'r effeithiau ar lwyni addurnol hefyd sydd a'u tlysni yn nhyfiant y flwyddyn bresennol megis BUDDLEIA DAVIDII, CORNUS RHISGL COCH, HELYG ADDURNOL, ac eraill, neu lwyni a blodau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol megis RIBES (cyrens blodeuo), ambell SPIREA ac ambell BERBERIS, a.y.b.

Cafodd cyhoeddi'r Traethawd hwn effeithiau amlwg ar berthynas y Brifysgol â'r mudiad.

Y mae un o'm hoff feddargraffiadau i yn yr India yn coffau imperialydd o Gymro: 'Yma y gorwedd Gwilym Roberts a fu farw o effeithiau'i gyfarfyddiad a theigr'.

Mae'r nifer fawr o gyfarfodydd gweddi a gynhelir bob nos, a'r cyfarfodydd pwnc yn cael effeithiau drwg.

Mae melyn yn dynodi fod y plentyn yn dal i ddiodde'n ddifrifol o effeithiau newyn.

Un sydd wedi gweld effeithiau creulondeb Saddam Husssein a'i filwyr â'i lygaid ei hun yw Cwrd ifanc - Kamarin - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Disgwylir i archaeolegwyr môr feddu gwybodaeth dda am ddaeareg môr a gwaddodoleg gan fod y gwyddorau hyn yn rhoi inni'r technegau ar gyfer mesur llwyth safle ac i ddisgrifio sut y mae'r llongddrylliad yn treiddio i mewn i wely'r môr drwy sgyriadau ac effeithiau ymsefydlogi eraill.

Dewiswyd safle mewn dwr dwfn (Swnt Blasket, Iwerddon) gan y byddai hyn yn lleihau effeithiau cerrynt ac ymyrraeth gan rai'n chwilio am ddarnau i'w cadw.

Dangosodd yr Athro Petkov ymhellach fod ginseng yn amddiffyn y corff rhag effeithiau tyndra a straen.

Tyb rhai ei fod yn gwrthweithio effeithiau'r caffin yn y coffi.

Dyna'r math o ymgyrchu mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ei wneud i geisio dad-wneud effeithiau'r mewnlifiad ar y Gymraeg.

Erbyn y ddeunawfed ganrif ceir digon o dystiolaeth i effeithiau'r Ddeddf Uno ar yr iaith.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

EFFEITHIAU: Gellir teimlo effeithiau ar yr amgylchedd pan fo'r angen yn codi am gloriannu rhwng gwahanol faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd.

Erys y cof am y caledi hwnnw yn yr ardaloedd diwydiannol, a gwelir effeithiau ei greithiau hyd y dydd hwn.

Peth arall 'sy'n ffaith', fodd bynnag, yw eu bod ill dau'n argyhoeddedig mai melltith fu effeithiau gwleidyddol a diwylliannol y Chwyldro Ffrengig ar Ffrainc ac ar Ewrop.

O sylwi'n fanylach ar sefyllfa'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd gwledig yng Ngheredigion, sy'n nodweddiadol o rannau gwledig eraill o Gymru, gwelir effeithiau'r newidiadau a grybwyllwyd yn glir, a hynnyn sicr yn achos pryder.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Gwelir effeithiau hyn yn eglur yn ei drafodaethau ar y pynciau diwinyddol a oedd yn ganolog i fywyd deallusol ei oes.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Wrth drafod effeithiau Gwrthryfel Glyndwr cyfeirir at dwyll Thomas Barnelby y Siamberlen yng Nghaernarfon a gollodd ei swydd ond eto'i gyd a fu'n gwnstabl y castell hyd ei farw.

Rhaid sicrhau fod yr effeithiau'n gadarnhaol.

Peth arall sy'n egluro bodolaeth y cerddi hyn yw effeithiau'r pla.

Credir bod rhannau o ddwyrain Affrica, lle bo AIDS yn endemig, hynny yw, yn bresennol yn gyffredinol a chyson yn y boblogaeth, ond o bosibl heb ddangos ei effeithiau llawn ar y boblogaeth honno.

Bellach y mae yna ffordd y gallwn ddechrau cydweithio i liniaru rhywfaint ar ddrwg effeithiau yr holl newidiadau yma.

Fodd bynnag, ar wahan i'r chwarter olaf, mae'r ffilm yn brin o gyffro ac effeithiau gweledol.

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Mae Bae'r Môr Ladron yn drac reggae dub bendigedig gyda Geraint Jarman yn ei leisio - mae'n creu naws drwy'r defnydd o ddrymiau ac amrywiaeth o effeithiau swn - effeithiol iawn.

EFFEITHIAU: Mae llawer o safleoedd diffaith yn werthfawr i'r amgylchedd o ran gwarchod natur a'r tirwedd.

Daeth effeithiau'r safle hwn yn amlwg ar ôl y chwyldro diwydiannol gyda thwf enfawr y wladwriaeth.

Dyfnhawyd y pruddglwyf gan sgil-effeithiau ei afiechyd.

Gan hynny, mae'r prif gynigion yn ymwneud â barnu effeithiau adennill ac asesu gwerth y safle i'r amgylchedd yn ei gyflwr cyn ei adennill.

Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.

Beirniadol oedd Howel Harris o'r canu ond llwyr orchfygwyd ei ragfarn wrth weld yr effeithiau daionus a ddeuai yn ei sgîl.