Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

effro

effro

Nid rhethreg niwlog Lloyd George mewn Eisteddfod mo hyn; dyma angerdd llym meddwl effro a bywiog.

Ni all neb anghofio'i brofiadau trist a llon, tawel a chynhyrfus, tra bo'r cof yn effro a'r gydwybod yn fyw.

Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.

Roedd hi'n siŵr ei bod hi'n effro.

Ond roedd yr hogiau'n effro.

Pe buasem wedi bod â'n meddwl yn fwy effro yr adeg hwnnw fe fuasem wedi cofnodi yr hyn a gymerodd le a'r hyn a welsom ac a glywsom, ond y mae peth esgus dros beidio â gwneud, a hwnnw ydyw: yr oeddym yn rhy brysur yn clodfori ac yn canu, a gweddi%o, a rhyfeddu.

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.

LIWSI: (Wrth y gynulleidfa) 'Chi newydd gael cipolwg prin iawn ar 'y nhad yn effro.

Ond er iddo ymddangos yn dawel ac yn ufudd fel pawb arall, roedd ei feddwl yn effro.

Trwy gadw'n dawel ac yn effro llwyddodd hi i gofio rhif y car a rhoi'r wybodaeth i'r heddlu.

Ac mae Gruff yn dal i gwyno fod y peli bach yna o bapur arian bob lliw mae o'n eu darganfod yn y gwely yn 'i gadw fo'n effro'r nos ac yn mynd i mewn i'w byjamas o.

Wedi llawer o ddiolchiadau ar ôl i mi ddweud sut i gysylltu ag o, a minnau erbyn hyn yn llawn effro, rhoddais Y ffôn i lawr.

Brwydrodd i'w gadw ei hun yn effro.

Dylai fod wedi dweud wrth y swyddog arall oedd yn effro ar y pryd i gadw ei lygad arno rhag ofn i rywbeth ddigwydd.

Rhaid canolbwyntio ar y pysgota, 'does wybod yr eiliad y daw - a rhaid bod yn effro!

Ond, wedi i'w chorff flino, cafodd fod ei meddwl yn dal yn effro, a doedd dim awydd troi'n ôl i'r bwthyn arni.

'Oedd e'n effro?' gofynnodd y bachgen.

A doedd yr un o'r tri oedd yn effro ar y pryd yn digwydd edrych i'w gyfeiriad.

Pe byddai hi'n effro, ni fyddai hi byth yn hewian yn gecrus fel yna.

Roedd yn un o'r tri oedd wedi bod yn effro rhwng hanner nos a phedwar o'r gloch y bore.

Aiff y broses o ad-feddiannu yn ei blaen bellach: daw'r Rex yn slei bach yn fan ymarfer ar gyfer y drymiwr, sy'n cadw Tref yn effro yn ystod y nos, ac aelodau eraill pyncaidd ei grŵp; yn garej ar gyfer motobeic Dave na all fforddio talu'r drwydded ar ei gyfer; ac yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer hen ferched y cartref lle cant eu suo i gysgu o flaen y teledu ddydd a nos.

Rwyt yn ailgydio yn y trywydd ond yn fwy effro y tro hwn, felly pan glywi dwrw ar y llwybr ychydig y tu ôl i ti rwyt am ffoi.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

Roedd hi'n effro.

Petaswn yn fwy effro pan oeddwn yn Ffrainc ym mis Awst buaswn wedi cael copi ohono am ddim.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.

Problem sy'n arbennig i genedl fach mewn cyfnod argyfyngus ydi hon, oblegid mewn cenedl o'r fath, ymhlith y rhai mwyaf deallus a mwyaf effro i'r hyn sy'n digwydd y ceir y llenorion.

Byddai hynny'n dangos bod meddwl effro ganddo.