Cynrychiolwyr par excellence yr hen drefn yw Gwydion ac Efnysien.
Darlunnir Efnysien yn rymus hefyd, gŵr a lywodraethir yn llwyr gan y syniad hwn o anrhydedd personol sy'n troi mor hawdd yn falchder eithafol.
Felly, pan deimla fod Brên a'r uchelwyr wedi'i sarhau, ymetyb Efnysien ê chreulondeb erchyll yn erbyn meirch Matholwch, lladd y Gwyddyl sy'n ymguddio yn y sachau croen, llosga ei nai yn fyw, a phair ryfel a ddaw'n agos at ddifetha dwy genedl ac a gymer fywyd ei lysfrawd a'i lyschwaer.
Gellid dadlau mai amddiffyniad oedd lladd y Gwyddyl yn y sachau, ond ni ellir osgoi'r argraff bod Efnysien yn mwynhau'r weithred.