Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eglurhad

eglurhad

'Roedd hi wedi hen ddysgu'r cyntaf ar ei chof ac ailadroddai ef wrthi'i hun yn awr ac yn y man yn y gobaith y gallai feddwl am eglurhad.

Roedd cynrychiolwyr TAC yn awyddus i bwyntio allan fod taliadau yn araf a rhandaliadau o anfonebau yn cael eu gwneud heb eglurhad.

Yn aml hefyd ceisiwn heddiw esbonio'r goel drwy resymoli neu gynnig eglurhad ymarferol.

Dyna'r eglurhad hefyd paham nad ydynt i gyd yn bobl sy'n cael honourable mention pan ganwn 'Hen Wlad fy Nhadau', o achos gwraig ddemocrataidd oedd fy mam.

A heb air arall o eglurhad, troes Snowt i'r lon a arweinia i'r Tarw Coch.

Ac, ar y fersiwn Saesneg, daeth eglurhad.

Mae llawer eglurhad wedi ei gynnig yn enwedig yr awgrym bod y dagell wedi ei gorchuddio a haen o fwcws sy'n gweithredu fel hidlydd, neu fod y cirysau eu hunain yn ludiog.

Yr wythnos hon, fel yn sgil y digwyddiadau y Hu%nxe a Mo%lln, mae pobl yn chwilio am eglurhad.

Pwyntiau ar gyfer Gweithredu/ Eglurhad Pellach

* cofnodwch brif bwyntiau eich profiad a nodwch unrhyw faterion sydd angen trafodaeth neu eglurhad pellach arnynt yn ystod unrhyw sesiwn adolygu gyda'ch person cyswllt.

Doedd dim ôl beirniadaeth ar eglurhad y meddyg ifanc: `Ond mae'n iawn i bobl gael gwybod', meddai.

Ni dderbyniais ateb nac eglurhad ac mewn pwyllgor diweddar o Ranbarth Arfon, gofynnwyd imi anfon atoch eto.

Rhaid i chi fynd i weld y perfformiad i gael eglurhad o hynny!

Ymhen wythnos daeth penaethiaid y colegau at ei gilydd, ac heb aros am eglurhad gan yr awdur, cytunasant i gondemnio'r Traethawd a'i alw'n anonest.

Diamau mai gwasgfa'r fagl am ei gorff yw'r eglurhad, a'i fod yn bur ddiymadferth pan ryddhawyd ef ohoni.

Cael eglurhad brysiog gan Paul, cynrychiolydd y Gronfa, fod eu gyrrwr nhw yn gefnogol i'r garfan sy'n rheoli hanner gogleddol y ddinas, a'r gyrrwr fyddai'n dderbyniol gan garfan y de yn hwyr yn cyrraedd y ffin i'n cyfarfod.

Cofiaf un hen wraig yn gofyn tuag at beth yr oeddwn yn 'clasgu' a minnau yn ei chywiro a dweud mai 'casglu' oedd yn gywir, a chael eglurhad gan mam ei bod hi'n gywir hefyd.

Mae chwilio am eglurhad i'r methiant hwn yn thema y mae'n dychwelyd ati dro ar ôl tro yn ei waith.

Mae aelodau'r Cyngor yn dal i aros am benderfyniad boddhaol ar faterion cyllidol sy'n ymwneud â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac maent yn ceisio cael eglurhad ar fyrder.

A chyda hynny o eglurhad eisteddodd Gruffydd i lawr i fwyta cinio, cinio rhywun arall.

Heb air o ddiolch, heb sôn am eglurhad, fe ddiflannodd y criw teledu.

Mae aelodau'r Cyngor yn parhau i aros am benderfyniad boddhaol ar y materion cyllidol hyn ac mae'n ceisio cael eglurhad ar fyrder.

Yn yr ymchwil daer am eglurhad a fyddai'n gosod y troseddwyr ar wahân i weddill y boblogaeth, caiff eu hoedran ifanc ei bwysleisio'n aml iawn.

Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.

Dyna'r eglurhad dros fodolaeth cyfres o anhwylderau sy'n gorgyffwrdd a'i gilydd, anhwylderau yr wyf fi yn fy ffordd heipocondriag fy hun yn teimlo 'mod i'n dioddef ohonynt.