Mae'r Diamwnt yn ymgais i gyflwyno'r ffordd y cymethir yr Ego â'r Hunan, y byd tadol â'r un famol, a'r symbolau o ymosodiaeth, atalnwydau a greddfau a gynrychiolir gan y cŵn, y ceffylau, yr ysgithr, y gweill a'r grib.
Er mwyn gwneud hynny, y mae hi'n ei wthio i droi at ran arall, uwch, ohono'i hun, sef yr Hunan, neu'r Uwch-ego, dan yr enw Arthur.
O dderbyn syniad Layard am natur Culhwch ac Arthur fel Ego a Hunan yr un person, fe ddatrysir y broblem, i raddau helaeth.
Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.
Os mai Arthur ydyw'r Hunan, y tad-maeth ysbrydol a diwylliadol i Culhwch yr Ego, i'r gwrthwyneb, yn y pegwn arall, y mae'r Pencawr.
Does dim awgrym o ego artistig, dim hunanholi dyfn, dim giamocs wrth drin paent.