Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

egwan

egwan

Plyciai'r wên egwan yng nghonglau cysgodlon ei geg.

Fel dyn gyda thorts egwan yn chwilio am gath ddu yn y nos, doedd dim ond un peth yn bosib' - dechrau wrth y traed, sylwi a chrynhoi argraffiadau, gan obeithio y byddai'r rheiny, fel kaleidoscope bach, yn ymffurfio'n batrwm o fath.

Taflodd gipolwg dros ei ysgwydd a gweld metel yn fflachio yn y golau egwan.

Ai'r trên heibio i dai â rhyw olau bychan crwn, egwan yn y ffenestri.

Yn ei goleuni egwan gwelai ei fod mewn ystafell eang.

Sylwodd yr hen ŵr ar yr ystum a gwenodd yn egwan.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Fe fyddem ni'n gweld rhyw olau cannwyll egwan yn dod o gyfeiriad siop Pollecoff.

yn fwy bygythiol nag arfer am ei fod yn sefyll mor llonydd a'r golau egwan yn sgleinio mor oeraidd ar fetel ei ysgwyddau llydan.