Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ehangach

ehangach

Felly, mae brwydr y Gymraeg yn rhan o'r frwydr ehangach i geisio creu byd sydd yn fwy teg a chyfartal.

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.

Weithiau gwelir pethau a allai fod yn gyfeiriadau at leynddiaeth glasurol neu yn atsiniau ohoni, heb fawr o arwyddocâd ehangach efallai.

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Symudodd JE o Lundain i Gaernarfon, ac mewn ystafell tu cefn i Westy Pendref lle lletyai bu Swyddfa'r Blaid nes y symudodd yn ddiweddarach i ystafelloedd ehangach yn Heol y Castell.

Gellir defnyddio cymorth, ar ffurf technoleg, i ennill mynediad ehangach i'r amgylchedd.

Poster du, heb lun arno, y gobaith o ddenu cynulleidfaoedd ehangach, si ei fod yn gynhyrchiad gwahanol - "arbrofol" hyd yn oed!

Bu hon yn flwyddyn arwyddocaol i BBC Cymru gyda chynlluniau ar gyfer darllediadau'n ymwneud â sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cwblhau, a'r goblygiadau ehangach sydd i ddarlledu o ganlyniad i greu'r corff newydd.

Ar ôl dweud hyn yna, sut bynnag, dylwn ychwanegu hyn: sef bod defnydd ehangach o sieciau Cymraeg, o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg (megis ewyllysiau a gweithredoedd eiddo) nag a fu.

Yn drydydd, ceir cynghorau ehangach eu maes, y Cynghorau Ardal, yn gyfrifol am bethau fel ysbytyau, priffyrdd, cynllunio economaidd ac addysgol a thelegyfathrebu.

Yn y digwyddiad ola' yna y mae arwydd o fwriad ehangach y ddrama gerdd.

Rydyn ni'n gobeithio cael ymateb da i Benwythnos Sêr S4C, fel y gallwn ni gynllunio dewis ehangach a mwy amrywiol o deithiau yn y flwyddyn 2000, gan gynnwys, o bosibl, penwythnosau garddio a choginio gyda gwahanol gyflwynwyr S4C.

Hyderwn y bydd cyhoeddi'r ddogfen hon -- law yn llaw â dulliau eraill o weithredu -- yn sbarduno trafodaeth ac yn ennyn cefnogaeth i ddeddfu er mwyn gosod seiliau cadarn i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn iaith genedlaethol, fyw i Gymru gyfan fel rhan o'r broses ehangach o ddemocrateiddio ein gwlad.

Bydd Addysg BBC Cymru yn cynnig: cyfleoedd dysgu am oes i bawb yn ogystal â thargedu cynulleidfaoedd allweddol ac anghenion arbennig.rhaglenni ysgolion yng Nghymru - yn ogystal â'r chwe awr ar BBC 2, ar hyn o bryd BBC Cymru yw'r unig ddarparwr rhaglenni addysg Cymraeg ar S4C, gan gynnig tua 30 awr y flwyddyn ynghyd â thua 70 awr y flwyddyn yn y Gymraeg a Saesneg ar Radio Cymru.rhaglenni dychmygus ac ysgogol ynghyd ag adnoddau o'r safon uchaf.ehangu'r ddarpariaeth i gynulleidfaoedd craidd yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd i gynnwys pob oedran.wynebu'r her gymdeithasol a'r her economaidd yng Nhgymru'r dyfodol.ystod estynedig o wasanaethau i gynulleidfa ehangach trwy'r Coleg Digidol gan ffurfio partneriaeth â S4C, cyrff addysgol a hyfforddi ynghyd â diwydiant.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

O, na fyddai mwy o feirdd Cymru wedi troi i fyd llenyddiaeth plant am gynulleidfa ehangach!

Iaith y canu oedd Profenseg neu la langue d'oc, dit aujourd'hui l'occitan, ond yr oedd ei diriogaeth wreiddiol yn ehangach na Phrofens, oblegid cynhwysai hefyd Languedoc, Aquitaine (gan gyfrif Limousin, Perigord, etc) ac Auvergne, a defnyddiwyd yr iaith fel cyfrwng canu gan y beirdd i'r deau o'r Pyrenees, gan y beirdd Catalanaidd ar y naill law a chan feirdd gogledd yr Eidal ar y llaw arall.

Gellid dehongli eu mawreddd hwy mewn cyd- destun ehangach nag ysblander a rhwysg llysol a pholisiau cymen a derbyniol i'r bobl yn gyffredinol.

Y drwg oedd nad oedd nemor ddim cyhoeddusrwydd i wir ystyr y datganiad hwnnw, ystyr a oedd yn rhan o weledigaeth lawer ehangach.

Mae hyn yn rhannol oherwydd effaith y technegau eu hunain ar anifeiliaid a hefyd oherwydd yr egwyddor ehangach na ddylai dynion ymyrryd mewn dulliau naturiol o genhedlu.

Felly wrth fynd ati i baentio arwyddion Give Way gyda'r gair Ildiwch cofiwch fod ei arwyddocâd yn ehangach o lawer nag un gair ar arwydd anghysbell.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, diwrnod gwirioneddol hanesyddol, ansawdd gwell, amrywiaeth ehangach o opsiynau... dyma'r geiriau allweddol a ddefnyddiwyd i lansio BBC CHOICE Wales ar Fedi 23, 1998.

Byddai hynny, o'i osod mewn cyd-destun ehangach yn gymdeithasol, yn gymorth i hybu cyfraith a threfn.

Rhaid deall Keats and Shakespeare yn erbyn cefndir ehangach y ddadl lenyddol-grefyddol rhwng Murry a T.

Heb hyd yn oed y weledigaeth hon i ddechrau, dygnu arni a wnaeth HR er hynny, gan weithio trwy gyfrwng y wasg a thrwy anfon gwahoddiadau at gylch ehangach fyth o gydnabod.

mae Gal yn son am y siaradwyr/-wragedd Hwngaraidd sy'n 'dewis' siarad Almaeneg am eu bod eisiau 'statws a bri', ond nid yw'n cysylltu'r anghyfartaledd rhwng y ddwy iaith i leoliad grym o fewn y strwythur cymdeithasol ehangach).

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i gynyddur gynulleidfa o siaradwyr Cymraeg ac mae wedi llwyddo i ehangu ei apêl i drawsdoriad ehangach o wrandawyr.

Yn dilyn y cynnig yng Nghyfarfod Cyffredinol 1995 yn galw am gefnogaeth i'r ymgyrch dros Senedd i Gymru, mae'r grwp wedi edrych ar hyn yng nghyd-destun ehangach datganoli grym a sut mae modd sicrhau fod grym yn cyrraedd y gymuned.

Cyfuniad o'r ffactorau penodol Almaenig hyn a digwyddiadau ehangach megis y rhyfel yn Fietnam oedd thema un o areithiau cynharaf Schneider.

ystod estynedig o wasanaethau i gynulleidfa ehangach trwy'r Coleg Digidol gan ffurfio partneriaeth â S4C, cyrff addysgol a hyfforddi ynghyd â diwydiant.

Mae'r safle'n trafod y clwb ei hun, awgrymiadau ar sut i wella'ch ffotograffiaeth, a thudalennau o 'ddiddordeb ehangach', sy'n cynnwys teithiau darluniedig yn yr ardal.

Yn hytrach fe'i rhyddheir i gyfeirio brwdfrydedd newydd y grŵp i ba faes bynnag sydd fwyaf addas o fewn y cyd-destun datblygu ehangach.

Casgliadau yn ymwneud a dulliau /arddulliau dysgu a'r cyfle a roddant i ddefnyddio iaith Yn ei ymwneud a'r defnydd a wneir o iaith yn yr ystafell ddosbarth, ymdrin a dulliau ac arddulliau dysgu yn yr ystyr ehangach yr oedd yr ymchwil.

Cyfyngu ar swyddogaethau ehangach PDAG

Rwy'n siwr y bydd y trefnwyr yn mynnu ei bod yn cyflwyno rhaglen ehangach os bydd hi yn y rownd derfynol.

A'r nofelydd ati i ddarlunio a dehongli perthynas pobl â'i gilydd o fewn y teulu, y gymuned, ac yn ac os Islwyn Ffowc Elis, yng nghyd-destun ehangach Cymru fel endid cenedlaethol.

Tynnwyd ein sylw at y darlun ehangach gyda'r rhaglen materion cyfoes Ewropa, a roddodd adroddiad arbennig i'r gwylwyr ar droseddau rhyfel yn dilyn erchyllderau Kosovo.

Mae'r Bwrdd yn ymwybodol fod yn rhaid ystyried datblygiad yr iaith Gymraeg nid yn unig yn y cyd-destun Cymreig, ond hefyd yn y cyd-destun ehangach Prydeinig ac Ewropeaidd.

Trwy gydweithio mewn clwstwr o ysgolion, gellir cronni a rhannu profiad llawer o athrawon ac o adnoddau materol a hybu cyfathrach ehangach ymhlith plant.

Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.

Mae'r Cyngor yn awr yn chwilio am fentrau ategol sydd wedi eu cyllido'n ddigonol i gyfathrebu â'r gynulleidfa ar lwyfan ehangach.

Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn.

Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster 'Rod Richards - Unben Addysg Cymru' angen eu codi'n ehangach.

Mae ei grymoedd yn ehangach na phwerau ein Cynulliad ni, ac mae eu deddf iaith bresennol, sy'n dyddio o 1982, yn gryfach na Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'r saflen trafod y clwb ei hun, awgrymiadau ar sut i wella'ch ffotograffiaeth, a thudalennau o 'ddiddordeb ehangach', sy'n cynnwys teithiau darluniedig yn yr ardal.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.