Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.
O ran cythreuldeb (cewch weld mewn eiliad paham y dywedaf 'o ran cythreuldeb') âi Jane, fy ngwraig, i ateb y ffôn; yn ddi-ffael dywedai Dr Kate, 'Dydw i ddim yn eich clywed chi.
Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws.
Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.
Adran Pedwar - Adolygu eich lleoliad
Os mai dyma eich darlun chi o lyfrgell, yna ewch draw i'ch llyfrgell leol ac fe gewch eich synnu!
'Mae hi'n marw,' meddai, 'ac mae hi am eich gweld chi.'
Eich clwyd i Gramadeg yr iaith Gymraeg.
gweithred o drosedd yw pob rhyfel, gan gynnwys rhyfel amddiffynnol, a phan eir i ryfel, meddai, ystyriwch hyn am funud : yn ôl pa safon neu wrth pa fesur yr ydych am reoli eich dialedd fel na fydd yn gallu bod yn fwy na'r union daliad sy'n ddyledus ichwi am yr hasliau a dreisiwyd neu'r anrhydedd a sarhawyd ?
Cynhyrchir 'aflatoxin' gan ffwng a gall fod yn farwol i adar os bwytant ddigon ohono, - felly cadwch eich llygaid yn agored am y 'Sêl Cymeradwyaeth'.
Byddai'n demtasiwn i chwi sefyllian yno nes bo llech y preseb yn wlyb lân, a'r tafod chwilgar garw yn hel y gronynnau o flawd a gollasid ar lewys eich siaced.
Mae'n ddrwg gennyf orfod eich codi o'r gwely, meddai'r Arolygydd yn swta, ond mae gennyf warant i chwilio'r tŷ yma,' a chan chwifio'r papur yn ei law camodd dros y trothwy.
Ni fedraf feddwl am well diwrnod i neb sy'n byw o fewn cyrraedd Bro Morgannwg na dilyn y daith arbennig yma a fedr eich ysbrydoli i ddechrau eich casgliad daearegol eich hun - fel y gwnaeth lolo Morgannwg yn ei ddydd.
Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.
Beth yw eich barn chi?
'Efallai y byddai hen bapurau newydd y cyfmod yn eich helpu.
Cadwch at y cyngor cyffredinol yn Newid eich arferion bwyta - Cynllun deg pwynt, gan ei fod yn darparu'r rheolau sylfaenol ar fwyta'n iach.
Mae wedi'i gynllunio i'ch cynorthwyo chi, a'ch ysgol neu eich coleg, i gael y budd mwyaf o'r cynllun.
Felly, fy annwyl gyd-derfysgwyr cawn eich gweld yng Nghyfarfod Cyffredinol y flwyddyn nesaf os na fydd pob copa walltog ohonom yn y carchar wrth gwrs.
'Dyma fi wedi eich dal chi, y cnafon.
Cysylltwch a'r Llais i ddweud eich dweud!
Ardderchog hogia' a diolchir i Mr Glyn Jones am eich hyfforddi.
Gwnewch eich sieciau yn daladwy i Beatbox Taffia, a hynny am £2.50.
Felly, i arbed sioc i'r system, rhaid colli pwysau yn eich pwysau...
Cyn i un ohonynt gael cyfle i ddweud dim, meddai Delwyn, 'Mi ddylai'r gosb fod yn addas i'r camwedd eich mawrhydi ...
Cadw eich Gwaith Fe ddylech gadw eich gwaith yn fynych, mae hyn yn lleihau'r posibilrwydd ichwi golli eich campwaith am byth.
Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.
Dychymgwch eich bod yn byw drwy'r bedlam yna ar ôl Dolig pan mae pob dim ar sêl yn y sipa, a phob twll a chornel yn bloeddio hynny.
Os ydych chi'n gwerthu anfonwch eich cyfeiriad i'w gynnwys ar ein rhestr.
Efallai bod rhai ohonoch chi yn meddwl eich bod yn heddychwyr.
Os yw'ch canolfan yng Nghymru, a rydych yn rhedeg eich busnes eich hun, neu eich bod yn ystyried cychwyn ar ben eich hun, mae Cyswllt Busnes yno i roi cymorth.
Ar y gorau, mae newyddiaduraeth fel cerdded trwy gae yn llawn landmines, rhai ohonyn nhw'n weddol amlwg, eraill wedi'u gosod yn ddiarwybod gan eich rhagfarnau eich hun.
Mae'r pecyn hwn ar gael oddi wrth eich trefnydd lleoliadau athrawon lleol.
Fe ddaeth rhyw bobol o'r Eisteddfod a dweud wrtho, ‘mae gynnon ni newydd da i chi, mae eich brawd wedi ennill y Goron'. Roedd o wrth ei fodd, wrth gwrs, a mi fuon nhw'n trafod y peth am rhyw bum munud neu ddeg.
Oes yna rywbeth yn eich poeni chi - ffrind, efallai, neu aelod o'r teulu?
Cadwch eich Siart Pwysau mewn lle y gall pobl eraill ei weld yn hawdd.
`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.
Anfonwch eich atebion i'r cyfeiriad gang@bbc.co.uk - nwyddau Gang Bangor ac eps newydd Topper, Epitaff ar cd amlgyfrannog £5 Heb Newid yn wobr.
O ganlyniad, fe fyddai'r awdurdodau yn medru gwahardd y Gymdeithas, a gwneud yr holl aelodau yn derfysgwyr dros nos, tra eich bod yn cysgu'n braf yn eich gwely.
Maen wers seml, os ydych chi'n gwahodd ci ffyrnig ich ty rhaid ichi ddisgwyl cael eich brathu ganddo hefyd mae gen i ofn.
Er enghraifft, byddai rhai pobl yn dewis cadair olwyn beiriant gan ei bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhyddid i symud na chael eich gwthio mewn cadair efo llaw.
Edrychwch i fyw eich llygaid.
Ceisiwch gadw eich gwaith y syml.
Nodir hyd y cyfnod prawf yn eich llythyr cynnig a phenderfynir yn ystod y cyfnod hwnnw ar eich addasrwydd i'r swydd am weddill hyd y cytundeb hwn.
Does dim plant ysgol i fod yn y ward, ond wir, fedrwn i byth eich gwrthod.
Os byddwch yn absennol rhwng un a saith niwrnod calendr byddwch yn cwblhau tystysgrif eich hunan ("Self Certificate%) i nodi'r rhesymau am eich absenoldeb.
Efallai yr ychwanegir at eich nodau gwreiddiol drwy'r negydu hwn.
Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.
Daliwch ati Mr Hulse; fel cyd-Gymro, rwy'n eich cefnogi i'r carn.
Cefnogwch ran gyntaf ein brwydr, yn erbyn y cwmnïau ffôn symudol, trwy ychwanegu eich enw i'r ddeiseb Galwad Dros y Gymraeg.
gallaf eich clywed yn ei ddweud: dyma chi'n dychwelyd i'r testun o raddio, a buoch wrthi rai misoedd yn ôl ar y tudalennau hyn mewn cyfres o dair ysgrif yn trafod yr union destun hwnnw.
Edrychwch ar eu gwefan i gael hyd i'r fersiwn rhad ac am ddim, e.e. RealPlayer 7 Basic neu RealPlayer G2, gan sicrhau eich bod yn dewis y fersiwn priodol ar gyfer PC neu'r Mac.
Eich holl ogoniant, fel blodeuyn y glaswelltyn, a wywodd!
A gaf i alw eich sylw chi at hanes Mr a Mrs Trefor Beasley.
Eich tasg
Gall y safle eich helpu i wella'ch Cymraeg, dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac ysgrifennu mewn Cymraeg clir, dealladwy.
Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.
'Mi wyddon ni'n dda am eich hoffter o ganeris, eich mawrhydi,' meddai Mini.
Fe ddylai fod gennych ddisg hyblyg eich hun sydd wedi ei fformatio.
Cynllunio'ch diet Cyn eistedd i lawr i gynllunio'ch patrwm colli pwysau, gwnewch yn siwr eich bod wedi deall y Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus ac wedi deall yr awgrymiadau sydd yn y Cynllun deg pwynt.
Beth felly wnaeth ennyn eich diddordeb chi yn yr iaith?
Cyn i chi anfon eich cwestiwn, cofiwch y medrwch chi chwilio am yr ateb yn syth trwy edrych ar gwestiynau gan fyfyrwyr eraill.
"Y rheol aur yw, 'Peidiwch byth â rhoi eich plentyn i rhywun nad ydych chi'n ei adnabod," meddai John Jenkins o Awdurdod lechyd De Morgannwg.
"Wn i ddim beth fydd eich rhieni chi'n ei ddweud Nia, ond mi fuaswn i'n meddwl y dylech chithau hefyd fynd ymlaen â'ch cwrs.
Mae toreth yr hysbysebion am insiwrans iechyd yn eich hatgoffa nad oes cyfle cyfartal i bob corff yma.
Mi wn eich bod chi yn blant da, ac yn gwneud eich gore, ond arnaf i y mae popeth yn dibynnu, os digwyddai rhywbeth i mi, dyna ni i gyd yn dioddef.
Gellwch brynu un arbennig ar gyfer eich car, a chael y garej sy'n arfer trin y car i'w osod, ond rhaid cofio fod y rheini yn tueddu i fod yn llawer drutach.
Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.
a) Cadwch holl goesau/ olwynion eich cadair ar y llawr.
Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.
Cymeriadau sy'n ennyn eich diddordeb/empathi ac yn y blaen.
"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.
Does arna'i ddim eisiau troi eich stumogau gyda ffilm arswyd newydd sâl.
Cwtogwch neu'n well byth, peidiwch ag ychwanegu siwgr at eich te neu'ch coffi a dewiswch ddiodydd ysgafn 'di-siwgr'.
* Gofalwch fod athrawon sy'n ymwneud ag addysg gyrfaoedd wedi eu briffio'n llawn am eich lleoliad
* Drwy gysylltu â swyddfa mewn-swydd eich sefydliad addysg uwch lleol.
Eich tasg yw dod i wybod am wahaniaethau fel hyn yn yr ardal lle rydych yn byw.
Mae rhai pethau yn eich bywyd y mae'n rhaid i chi eu gwneud gyda rhywun, a bwyta yw un o'r pethau hynny.
Fe welwch y bydd y cofnod hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cwblhau eich cynllun gweithredu.
A fedrwch weld cannwyll eich llygaid yn newid ei ffurf?
Mae sgrech neu floedd yr un peth ond mae'n wahanol iawn pan fydd rhywun yn eich galw chi'n enwau a chithau'n deall yr enwau hynny.
Fodd bynnag, er y byddai'r wybodaeth yma yn eich helpu i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael, dydi o ddim yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus rhyngddyn nhw.
* llunio cynllun gweithredu a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni canlyniadau o ansawdd da.
Bydd ymarfer corff yn ennyn eich corff i losgi mwy o egni.
Bydd eich cyfeiriad yn cael ei ychwanegu at restr BBC Cymru'r Byd.
Fe allech gredu eich bod yn Beirut neu yn un o wledydd America Ganol ar gyfnod o chwyldro!
Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi'n gallu hedfan ar garped hud i'r Arctig rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill.
A waeth i chi heb â cheisio meddwl amdanoch eich hun fel un ohonyn nhw,meddai, gan amneidio tuag at brif adeilad y ffatri.
Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng.
Mae'r byd hysbysbu yma yn eich taflu i'r llawr yn syth bin, ac yn parhau i ysgyrnygu'n ddyddiol a digyfaddawd arna' chi.
Fel roeddwn i'n dweud, cyfrwng sarhad a sen rhyfedd iawn - gwisgo megis mewn anrhydedd enw eich gelyn.
Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain.
Bydd cydbwysedd fel hyn yn eich helpu i edrych ac i deimlo'n dda tra'n colli pwysau ar yr un pryd.
Efallai y byddwch yn teimlo, fodd bynnag, na all y sefydliad croesawu fodloni eich nodau, ac mewn achos o'r fath bydd y trefnydd yn trafod trefniadau eraill gyda chi.
"Wnaiff o ddim dwyn eich diod chi os dwedwch chi'ch barn.
Bydd ymarfer corff yn eich helpu i golli pwysau drwy losgi caloriau ychwanegol.
Hynny yw, mi fedrwch chi, fel y dyn yn yr hysbyseb, siopio yn eich trons, yn gorweddian ar eich gwely, heb symud o'r ty.
'Helpwch eich hun,' meddai, a throis fy mhen i edrych arni gan ddal yn ei hedrychiad olwg ddireidus.
"Mae'n ddrwg iawn gen i am geisio dwyn eich eiddo, ond bwci tlawd iawn ydw i heb ddigon o fwyd gennyf i'w roi i'm plant.
A Gwen, fe fydda i'n falch o gael eich barn fel merch ar y newidiade i gyd -' Hi!