Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eiddew

eiddew

Cyfarchiad y Diawl Cecfryn Ifans Un bore oer ym mis Rhagfyr, a'r barrug yn gen ar lafnau'r celyn gwyrdd a'r eiddew, deffrowyd Morfudd gan sþn cnocio ffyrnig ar ddrws ei thþ.

Mae'r ysguthan yn wahanol i adar eraill yn ei pherthynas a'r eiddew.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Rhus toxicodendron yw'r eiddew wenwynig - efo deilen fel meillion yn sgleinio o goch - ac os cyffyrddwch â nhw mae'r dolur yn waeth ac yn ffyrnicach na'n danadl poethion ni - ac yn cymeryd amser hir i leddfu.

Daw adar a gwiwerod i nythu yn ei changhennau; trychfilod fel cacwn, gwyfynnod, chwilod a gwiddonau i fwyta'r dail; eiddew, uchelwydd, cen, mwsogl, algae a ffyngau i ymosod ar y canghennau a'r rhisgl; adar, pryfed a mamolion i fwyta'r mes, a daw rhagor o bryfed i ymosod ar gwreiddiau sy'n ymestyn ymhell dan y ddaear.

Hefyd, roedd yr eiddew, rosmari a'r llawryf yn cael eu defnyddio, ond nid oedd yr ywen a'r gypreswydden yn cael dod yn agos i'r tŷ ar unrhyw gyfrif yr adeg yma o'r flwyddyn oherwydd eu cysylltiad â'r Pasg a marwolaeth.

Adar fu'n gloddesta ar ffrwythau llwydlas yr eiddew ar grib y wal oeddent.

Mae tuedd ganddi hefyd i fwyta aeron anaeddfed, sydd hefyd wrth gwrs yn groes i fuddiannau'r eiddew a'i hangen i wasgaru hadau ffrwythlon.