Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eiddgar

eiddgar

(Ar yr alwad, GARI yn llamu oddi ar ei wely a chychwyn i lawr y grisiau yn eiddgar.)

Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.

Yna camodd yn eiddgar at ffrâm y drws agored er mwyn cael gweld, o'r diwedd, pwy oedd yr ymwelydd diamynedd.

Erbyn bod y côr ar y llwyfan am saith mae chwe chant a mwy o bobl yno yn disgwyl yn eiddgar yn y gwres wedi eu harfogi â hetiau rhag yr haul ac wedi chwistrellu eu hunain rhag mosgitos ffyrnig.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Cydsyniais yn eiddgar, gan weld cyfle i grisialu fy syniadau fy hun am fanteision ac anfanteision uno dwy ran y wlad, ac i fynegi sut rydw i - fel brodor o'r hyn a arferai fod yn Ddwyrain yr Almaen - yn teimlo erbyn hyn.

Cafodd hyd i un bocsaid o luniau ac aeth drwyddo'n eiddgar.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Dechreuodd Ffredi barablu'n eiddgar, yn union fel ymwelydd.

Afraid yw crybwyll ei fod yn brydlon wrth y bwrdd brecwast drannoeth, ond yn rhy eiddgar a chynhyrfus i fwyta llawer.

Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa.

Hawdd canfod, fellym y gallai'r blynyddoedd hyn fel ffoadur mewn gwlad bell fod wedi cryfhau'n rymus y dylanwadau blaenorol hynny a droes Richard Davies yn Ddiwygiwr eiddgar.

Disgwyl yn eiddgar yr ydym ni am albym ddiweddaraf Stereophonics hefyd.

Disgwylia'r garddwyr brwd yn eiddgar ym Mai am ddyfodiad yr haf gyda gwaith y gwanwyn, i raddau helaeth, wedi ei gwblhau.

Daeth anhwyldeb iechyd i'w luddias rai blynyddoedd yn ôl, ond yr oedd yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael 'sefyll' fel dyfarnwr yr haf hwn eto.

Eto i gyd, yr oedd yna Fedwyr arall, neu yn hytrach yr oedd gweddau eraill ar y Bedwyr brwd ac eiddgar hwn.

Dechreuais arni'n eiddgar i hel pentyrrau ohonynt ynghyd; yr oeddwn yn barod i wario rhai ugeiniau o bunnau yno.

Dosbarth Tryfan: Y mae'r plant wedi llwyr ymgolli ym myd y Deinasoriaid ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar am ÜBarti'r Deinasoriaid'.

Aeth i fyny ac i mewn yn eiddgar.

'Roedd popeth yn barod gennyf a disgwyliwn yn eiddgar on ni ddaeth teligram.

Fe awgrymodd un o ddatgeiniaid eiddgar Godre'r Aran fy mod i yn ei galw, ac nad amheuai na chawsid cefnogaeth iddi.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

(WALI yn symud at LIWSI a'i chofleidio'n eiddgar.

Y peth trawiadol yw parodrwydd eiddgar y Llywodraeth i ymateb i'r cais.

Yn weision i'r Llywodraeth newydd, roedden nhw'n eiddgar i fod yn help.

Tra oedd y ddeuddyn yr un mor eiddgar a'i gilydd i begynnu'r sefyllfa, seilient y pegynnau hynny ar werthoedd anghymarus.

Dwi'n aros yn eiddgar i weld pa un o'r beirniaid yna fydd y cyntaf i ddatgan ein bod wedi'n hynysu gan bobl sydd â'u buddiannau personol ynghlwm ym machau'r drefn bresennol.

Erbyn hanner amser, roedd pob un o dîm Llanelli yn teimlo'n hanner marw, a phan aeth y chwib, ro'n i'n disgwyl 'mlân yn eiddgar at y darn oren traddodiadol.

Y mae'r Eglwys Gristionogol ym mhob cyfnod yn talu pris uchel am golli cysylltiad â'r werin ac yn arbennig felly pan fo gofynion parchusrwydd yn peri condemnio gweithwyr eiddgar yn unig am nad ydynt yn cydymffurfio mewn iaith, ymddygiad a gwisg â'n safonau artiffisial ni.

A chyn hynny, mae swyddfa Plant Mewn Angen BBC Cymru yn eiddgar i glywed am yr holl weithgareddau codi arian sydd yn cael eu cynnal ledled y wlad..

Mi fyddaf yn awchu'n eiddgar am, eu gweld yn garped glas yn gymysg a blaendwf y rhedyn ar rostir gerllaw fy nghartref.

Disgwyliwn yn eiddgar am fy hosan Nadolig gyntaf, wrth reswm.

Pawb wrthi yn eiddgar awyddus yn paratoi ar gyfer ymweliad Ei Mawrhydi Elizabeth Windsor ar Fai 31ain.