Hydref ddail, dorf eiddilaf - sy'n eu trem Yn swn troed y gaeaf, Treulient eu horiau olaf Ar ingol ddor angladd haf.