'Ty Ddewi,' "Mae eigion golygon glas/ Ac o'u mewn y gymwynas" a 'Gwanwyn', "Chwychwi sydd a'r llygaid dwfn, a'u gwib trwy'r golau i rin eich gilydd").
'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.
Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.
Pan ddaeth hyn i'w feddwl ac nid amheuodd am funud gywirdeb ei ddyfaliad rhinciodd ei ddannedd mewn cynddaredd, a melltithiodd fab y Plas o eigion ei galon.
Caraf deimlo'r awelon yn fy ngwallt, a blas yr eigion hallt ar fy ngwefusau.
Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.
O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.
Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan.
Ond na, nid oedd dim yn tycio bellach ond turchio i'r gorffennol pell, gorffennol a oedd wedi hen suddo i waelodion yr eigion i bawb ond iddo ef.