Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eil

eil

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.

Pan symudodd Ifan Parry o Eil o Man i Benrhos, ty bychan ar ben lon Cerrigcamog, dyma John Rowlans yn cyfeirio at Ifan Parry fel 'Arglwydd y Penrhos'.Dyna Catrin Owan, Lon Las gwraig John Owan a wisgai gap pig gloyw bob amser, er mwyn i bawb wybod mai enjiniar oedd o ar y mor, ac nid llongwr.

Ifan Parry, Eil O Man, dau o'i hogiau mewn ffrae, ac un yn dweud wrth y llall 'y mwnci diawl' aros meddai Ifan Parry 'os mwnci yw dy frawd, mwnci wyt titha ac wn i ddim o ble daeth y diawlyn os na ddaeth o ochor dy fam.

Ni ellir honni fod yr hanes yn agos iawn at hanes geni Dylan Eil Ton, ond eto ...