Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eildro

eildro

Ar ôl i Karen gyhuddo Steffan o geisio ei threisio am yr eildro mae bywyd wedi bod yn anodd iawn i Steffan yng Nghwmderi.

Ennill am yr eildro yn unig yn y Cynghrair wnaeth Glyn Ebwy neithiwr.

Mae Bangor wedi enill Cwpan Cymru i ferched am yr eildro.

Mae Martin yn frawd bach i Stephanie, sy'n gwneud Mr a Mrs Edwards yn daid a nain am yr eildro.

Am yr eildro yn ystod fy nghyfres ysgrifau rwyf am ddwyn sylw at fy awgrym blaenorol o beidio dilorni a dibrisio dail tê wedi gorffen eu pwrpas mewn tebot.

Yn yr ail brawf sydd i orffen yn Trent Bridge heddiw mae angen 79 o rediadau ar Zimbabwe i sicrhau bod Lloegr yn gorfod batio am yr eildro.

Am yr eildro'r diwrnod hwnnw, tybiodd fod rhywun yn ei gwylio.

Efallai fod yna gynhyrchwyr annibynnol yng Ngwynedd sy'n cofio ymadrodd Marx am hanes yn ei ailadrodd ei hun, y tro cyntaf fel trasiedi, yr eildro fel ffars.

Bydd dau o brif dimau rygbi Cymru, Caerdydd ac Abertawe, yn wynebu ei gilydd am yr eildro o fewn wythnos nos yfory.

Gruffudd yn derbyn ffafrau ei dad...cael byd da a diogi a digon o anwes i'w gadw'n ddiddig a sicrhau na fydd arno ormod o frys i ddianc at yr Ymennydd Mawr a'i debyg!" Temtiwyd Elystan i fwrw'r Cripil i'r llawr am yr eildro y diwrnod hwnnw.

Dyma'r eildro o fewn tair blynedd i'r ferch ddawnus 18 oed o Abergele ennill y gystadleuaeth.

Roedd tuedd yn y ddau achos i ailddweud llawer yn y sefyllfa ddosbarth cyfan gan symleiddio cystrawen a thraddodi'n fwy uniongyrchol yr eildro er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

Sri Lanka alwodd yn gywir am yr eildro yn y gyfres o gemau criced yn erbyn Lloegr.

Meddwl am Edward a'i freuddwydion ieuanc, ieuanc - yr eildro ynglŷn â Ceri.

Yna, dair blynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth llwyddiant cenedlaethol i'n rhan am yr eildro pan gynhaliwyd y gystadleuaeth yn Aberystwyth a Maesywaen yn cipio'r tlws gyda Phrysor ac Eden yn ail iddynt y tro hwn eto.

Dyma'r eildro yn unig i United golli yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Felly, dyma Brezhnev yn rhoi cynnig arall arni, 'Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi,' meddai eto, yr eildro.

Gallai fod yn boenus o ostyngedig ac yn wirion o falch ar yn eildro.