Yna diffoddodd am rai eiliadau cyn ailgynnau yn swil ac anwadal.
Os medrwch chi gadw wyneb syth yn ystod yr eiliadau nesaf mi fyddwch chi'n haeddu clamp o fedal.
Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.
'Dwi'n siwr fod ei gyfansoddiad o fel mynydd tanllyd eiliadau cyn ffrwydro.
(Gwell egluro mai yn ystod yr eiliadau brau hynny y torrwyd y garw rhyngddynt.) Bu'r pryd bwyd yn eitem ddigon diflas ac roedd amryw resymau am hynny.
'Dyma ni!' meddai Mini ymhen rhai eiliadau, gan gadw ei bys esgyrnog ar y gair 'cath'.
Ond ergyd Walter Boyd yn yr eiliadau olaf oedd coron y cyfan ac y mae gobeithion Abertawe o aros yn yr ail Adran yn dal yn fyw.
Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.
'Dyma ni,' meddai ymhen ychydig eiliadau.
Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.
Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.
Roedd Lerpwl ar y blaen, 2 - 1, tan yr eiliadau olaf pan sgoriodd Alexios Alexandris ei ail gôl i ddod a'r sgôr yn gyfartal.
Yn ogystal â rhai eiliadau o 4' 33" cafwyd Bek, Villa Lobos, Roy Harris, y Beach Boys - sy'n cynnwys naws tebyg i gôr Cymreig, yn ôl Cale - a symudiad allan o Dance Music gan Cale ei hun.
Profwyd eiliadau cyffrous yng ngêm Lloegr a De Affrica ond sgoriwyd ond un cais.
Gwrandawodd am eiliadau hir.
Ni fyddem yn derbyn yn ein cartrefi luniau teledu o ddigwyddiadau ar gyfandiroedd pellaf y byd eiliadau wedi iddynt ddigwydd.
Ymhen eiliadau roedd y frigâd dân wedi cyrraedd a rhuthrodd y dynion tân i'r t i ddiffodd y fflamau.
Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.
Yna gwelodd Janet yn dod tu ôl iddo a gafael yn ei law a i geryddu: 'Robert, paid blino Miss Beti fel hyn!' Yn sydyn daeth iddi ddarlun rhithiol o bellter ei phlentyndod ei hunan, ac am rai eiliadau gwelodd wyneb Janet yn newid a throi'n wyneb Hannah unwaith eto.
Yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop roedd Leeds United o fewn eiliadau i gyrraedd y rownd nesa.
Roedd George Millace, ffotograffydd didostur yr eiliadau hynny yr oedd yn well gan bob joci anghofio amdanyn nhw, yn saff yn ei focs hanner y ffordd i lawr i'w hir gartref y funud honno.
a dowch i gweld fi'n ddi-ffael dydd Llun.' A dyna'r union eiriau y bu'n eu rihyrsio mewn sibrydion o'r tu cefn imi rai eiliadau ynghynt.
Roedd angen gôl yn yr eiliadau olaf i warchod record gartre ddi-guro Caerdydd.
`Agorwch y parasiwt.' Eiliadau'n ddiweddarach agorodd y ddau barasiwt uwchben y dynion gyda chlec.
Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.
Cic rydd Gary McAllister yn yr eiliadau olaf enillodd y gêm pan oedd hi'n edrych yn debyg taw cyfartal 2 - 2 fyddai'r sgôr.
'Paid!' sibrydodd Ifan eto, wrth i Dilwyn ymsythu, 'Nid dyna'r ffordd.' Wedi distawrwydd am rai eiliadau, atebodd Dilwyn mewn llais nad oedd fawr uwch na sibrydiad, 'Cer o 'ma'r bwllwch.
Ymhen ychydig eiliadau cafodd Mrs Kramer ei deffro gan y twrw mawr.
Ymhen ychydig eiliadau daeth sŵn y garreg yn disgyn yn ôl i'w lle.
Ceisiodd hwnnw esbonio ei benbleth gan ofyn a oedd y ferch wedi cyrraedd rai eiliadau o'i flaen.
Eiliadau'n ddiweddarach daeth allan drachefn gyda'r gath ddianaf yn ei ddilyn.
Roedd hi'n ymdrech lew gan Bellamy yn yr eiliadau olaf, roedd hi'n ymdrech lew gan y tîm cyfan am awr a hanner.
Ymhen rhai eiliadau trodd ar ei sawdl a'r ci i'w ganlyn.
Ac wrth fod ei phen yn dal i droi, aeth rhai eiliadau gwerthfawr heibio cyn iddi fedru ffocysu'n iawn ar y person o'i blaen.