Braidd symud 'y nghoese fedrwn i 'neud, ac yn yr eiliade poenus hynny, fflachiodd y cof am ddamwain 'Nhad yn ôl i mi, a'r boen a ddioddefodd e am gyfnod mor hir.
O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.
O fewn eiliade i ddechre'r ail hanner, bylchodd Roy Bergiers drwy amddiffyn Montreal, a hanner can llath o gae o'i flaen, a finne'n rhedeg nerth 'y nhraed wrth ei ochor yn barod i dderbyn pas pe bai angen.