A phrofiad felly oedd clywed am farwolaeth yr enigmatig John Eilian, newyddiadurwr a llenor o faintioli sylweddol iawn.
John Eilian.
Pan wahoddwyd fi i gyfrannu'n wythnosol i'r Herald Cymraeg (saith mlynedd yn ol bellach), ef, John Eilian a roes ei theitl 'Wrth Edrych Allan' i'r golofn hon.
Ond fe gytunir bid siwr, mai un o orchestion mwyaf John Eilian oedd ffurfio'r cylchgrawn rhyfeddol hwnnw, Y Ford Gron a ddaeth allan yn y tridegau cynnar.
Heb un ddadl, yr oedd John Eilian ymhell iawn ar y blaen yn ei faes newyddiadurol.
Pan oedd oddeutu ugain oed, fe gynhyrchodd John Eilian JT Jones, bryd hyny, a'i gyfaill, Prosser Rhys, gyfrol o farddoniaeth ar y cyd o dan y teitl Gwaed Ifanc.