Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eilradd

eilradd

cofnodion pob trafodaeth, penderfyniad a deddfwriaeth eilradd a chynradd yn y Cynulliad i fod yn ddwyieithog, gan gynnwys yr Hansard.

Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

Pwnc cwbl eilradd a dibwys oedd y Gymraeg yng ngolwg y mwyafrif mawr yn yr ysgol.

Term aflednais braidd yw 'bardd eilradd', Rywsut nid yw'n ateb gofynion neb.

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

Cytunwn fod gan y Cynulliad fel y'i bwriedir trwy'r mesur presennol rym a dylanwad potensial pwysig o ran ei allu deddfwriaethol eilradd.

Beirdd Eilradd

Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ond fel gweddill pobol anabl yr ynysoedd hyn mae Sian Frost bellach wedi cael llond bol ar driniaeth eilradd.

Rydym yn rhybuddio yn arbennig yn erbyn cael gor-gynrychiolaeth o fuddiannau busnes eilradd.

"Perffeithrwydd yw nod yr eilradd" "Rhyw y Sais, drais a lladrad." "Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd." "Y lleiafrif sydd wastad yn iawn." "Bydd yn ymarferol - mynna'r amhosibl." ac un arall, sy'n addas iawn siŵr o fod: "Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch."

Diwydiannau Eilradd yw'r rheiny sy'n cynhyrchu pethau o'r deunyddiau crai, neu'n eu prosesu,e.e., gwneud dur, ceir neu gynhyrchu bwyd.

Fe'i perswadiodd ei hun ei fod wedi mwynhau pryd o fwyd nad oedd, mewn gwirionedd, yn ddim ond pryd nodweddiadol, o unrhyw westy eilradd.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.