Cyhoeddwyd dau eiriadur dros yr wythnosau diwethaf.
Ar adegau fel hyn mae'n drueni nad oes gan unrhyw eiriadur air Cymraeg sy'n gweddu, am y gair Saesneg, indignant.
Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.
Nid yn unig diwygiodd y Beibl, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, ond cyhoeddodd Eiriadur a Gramadeg, ac ar bwys y ddau olaf gellir dweud iddo osod sylfeini holl astudiaethau diweddar o'r iaith Gymraeg.
Ond am bob diffyg gyda'r Geiriadur Idiomau y mae lleng o rinweddau yng Nghydymaith Byd Amaeth - horwth o eiriadur gan y Parchedig Huw Jones a fu'n taesu mor ddiflino eiriau ac ymadroddion byd amaeth.