Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eironi

eironi

Eironi mwyaf Ethiopia yw ei bod yn cael ei hystyried fel 'basged fwyd Affrica'.

'Ond cofio...cofio.' Mae'r toriad cysodol ar y llinell, ar ol 'cofio man,' yn bwrw'r ansoddair yn ol yn ogystal ag ymlaen at onomatopeia'r llinell wedyn ac eironi'r gair yn y cyd-destun galarus yn gynnil iawn.

Roedd stamp y Gymuned Ewropeaidd, y cylch o sêr aur ar gefndir glas i'w weld ar yr amdo - yr eironi olaf yno i bawb ei weld.

O gofio am ei yrfa fel seciwlarydd ac fel sosialydd, eironi nid bychan yw ein bod ni Gymry Cymraeg yn ei gofio fel awdur ambell emyn gwych ac awdur Ymneilltuol o wladgarol.

Teg casglu, felly, ei fod ar brydiau yn teimlo'n ddig tuag at waith dyn yn anharddu wyneb y ddaear, a hynny yn enw Cynnyd: ac y mae ei ddefnydd o'r gair gydag 'C' fawr yn ymddangos, yn y cyd-destun hwn, yn llwythog o goegni ac eironi chwerw.

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.