Y mae cymaint o amser er pan eisteddais i drwy bregeth yr ydw i ymhell o fod yn arbenigwr ar yr hyn sy'n digwydd mewn capeli ac eglwysi.
Gwthiodd y bwtler gadair wiail laith yn erbyn cefn fy nghoesau ac eisteddais i lawr.
Mentrais osod un troed ar y drws, ac yna eisteddais arno a'm pennau-gliniau yn cyffwrdd fy ngên gan ddal fy anadl ac yn disgwyl suddo.
Eisteddais ar dywod y draethell Gan edrych ar wyneb y lli; Canfu+m fod y tonnau yn gwynnu Wrth ddyfod yn nes ataf i.
Eisteddais yn ôl yn erbyn coeden; beth oedd well i unrhyw un, - dim radio na theledu na phapur newydd i'w atgoffa am yr holl ryfela a'r byd a'i drybini.
Eisteddais i lawr eto gan chwilota'n ddifeddwl am sigaret ac yna arhosais.
Eisteddais wrth y tân yn y gegin am rai oriau yn synfyfyrio.
Fel plentyn yn mynnu codi crachen oddi ar friw, fe eisteddais yn union gyferbyn a ffenestr y gegin, yn syllu trwyddi ar y cenllif, ac yn rhyw ddychmygu beth allai ddigwydd i'm lluddias i i fynd.
Eisteddais i lawr mewn ofn a phanic fawr am y fath gyfrifoldeb.