(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.