Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.
Fel y traddodais eisoes mewn darlith Eisteddfodol, daeth ffermwyr yn fwy dibynnol ar ynni o oleu a nwy nag ar ynni'r haul.
Ac os methodd ambell un wneud ei farc ar lwyfan eisteddfodol 'does raid iddo boeni dim oll canys fe fydd yn bownd o raddio'n feirniad o'r radd flaena' mewn dim o dro.
Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.
Mewn gwirionedd, 'Y Ddinas' yw'r gerdd eisteddfodol fodern gyntaf.
Ar y teithiau adref yn y Ffordyn fe ddarganfuwyd sawl enw newydd yn y byd eisteddfodol.
Dyna'r prif fannau, ac yr oeddynt yn tynnu o dan seiliau'r holl farddoniaeth eisteddfodol, ac yn enwedig cerddi uchelgeisiol y Bardd Newydd.
Bu llawer o fân siarad, cyhuddo a bygwth ar ran y grwgnachwyr eisteddfodol, ac aeth rhywrai mor bell â chyhoeddi cân enllibus yn Tarian y Gweithiwr a'i galw'n 'Gân y Cenders'.
Dyma un o feirdd pwysicaf y dyfodol yn ymddangos ar y llwyfan eisteddfodol, ac yn llunio awdl ragorol a oedd yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Thomas Aquinas.
Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio.
Gweithgarwch ysbeidiol oriau hamdden oedd barddoni a chystadlu i'r prydyddion hyn, ac er y gallai gwobr eisteddfodol ychwanegu ryw ychydig at economi'r teulu, ni allodd yr un o'r prydyddion hyn fyw ar eu henillion cystadleuol.
Mae pŵer sumbolig yr aelwyd werinol yn gyrru drwy gerddi'r prifeirdd eisteddfodol yn bur gyson.
Am y tro cyntaf erioed mewn canrifoedd o eisteddfota, mae dirgel ffyrdd y drefn eisteddfodol wedi eu chwalu wrth i'r trefnwyr fanteisio ar uniongyrchedd a natur ryngweithiol y we.
Ni chafwyd ynddi ddim o'r eirfa eisteddfodol dreuliedig.
oedd un o'i hoff ffugenwau fel cystadleuydd eisteddfodol.
Mae'n siŵr y gellid rhoi llawer ateb, ond byddai nifer ohonom yn cytuno i weld arwyddocad arbennig mewn cerdd eisteddfodol arall, na chollodd ddim o'i hapel na'i grym gyda threigl y blynyddoedd.
Y mae hi'n deg casglu nad oedd y drefn eisteddfodol, na'r gynulleidfa o eisteddfodwyr, yn barod i dderbyn dehongliad mor ysgubol negyddol ar berthnasedd 'yr Hendduw' i'w greadigaeth.
does dim llawer o wahaniaeth rhwng nofel a stori fer chwerthinllyd yw'r holl ddiffiniadau eisteddfodol o'r gwahaniaeth a'r ffiniau tybiedig rhyngddynt mae'r naill yn naratif hir a'r llall yn naratif byr.