Yr oedd wrth ei fodd yn perfformio, wrth ei fodd yn derbyn gwahoddiadau, fel darlithydd ac fel eisteddfodwr.
Ym Manceinion yr ymgartrefodd, yn eisteddfodwr brwd, a oedd eisoes wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Rhosyn Meirion, gyda gwasg Isaac Clarke, cyfrol a oedd yn cynnwys pryddest i Kossuth yr arweinydd Hwngaraidd.
Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.
Ysgolhaig, llenor, golygydd, eisteddfodwr, darlithydd, darlledwr, a Chymro tra chariadus.