Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eisteddodd

eisteddodd

Eisteddodd Therosina mewn cadair gyferbyn ag ef.

Ar ôl bwyta brecwast yn frysiog, eisteddodd i lawr i feddwl.

Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.

Eisteddodd ar y gwely a dowcian arno fel plentyn.

O'r gorau,' meddyliodd Glyn, mi gei di lonydd yr hen foi.' Eisteddodd yn ôl yn ei sedd i edrych ar y sêr drwy'r ffenestri yn nho ac yn nhrwyn yr awyren.

Gwin cartref oedd yn y calabash a rhoddwyd pibau hir o bambw i bawb sugno drwyddynt, ac eisteddodd pawb i lawr o'i amgylch.

Eisteddodd wrth y bwrdd ac agorodd y llyfr.

Ond neidiodd i fyny cyn gynted ag yr eisteddodd o.

Rhaid i mi adrodd yr hanes wrthych." Eisteddodd y wraig ar y gwely gyferbyn ac nid oedd hi'n siwr iawn beth i'w feddwl ohonof innau chwaith, erbyn hyn.

Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro.

Eisteddodd Buddha o dan goeden peepal - coeden gwybodaeth.

Eisteddodd ar foncyff a'u gwylio a'u procio ar eu taith.

Eisteddodd fy nhad ar flocyn o garreg a chael tynnu tri ar ddeg o ddannedd a mynd yn syth at ei waith.

Eisteddodd wrth ochr ei daid ar y gwely.

Eisteddodd Nain i lawr gan ochneidio'n drwm a dechrau beichio crio.

Eisteddodd Kirkley yn y gadair ar ochr arall y ddesg a'i wylio'n yfed.

"Dyn dŵad?" gofynnodd gŵr barfog i mi, ac eisteddodd i fwyta ac yfed a siarad a smocio.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Cododd i fentro chwilio am lymaid o awyr iach, ond eisteddodd yn gynt o lawer nag y cododd.

Un noson, a minnau yn fy nghaban yn paratoi i noswylio, daeth un o'r Siapaneaid i mewn ar sgowt i weld fod popeth mewn trefn, ac eisteddodd ar ochr y gwely yn f'ymyl.

'Hei, beth maen nhw'n ei wneud?' asynnod Menenius i gael dychwelyd adref gyda nhw.' "Y noson honno, eisteddodd Llygoden Fach y Wlad ar ei stôl fechan gan feddwl am anturiaethau'r diwrnod.

A'r miliwnydd a eisteddodd yn sydyn ar y ris uchaf, ond nid arhosodd efe yno; gan mai ei fwriad cyntaf oedd disgyn o'r llawr lle'r oedd ei swyddfa, efe a ddisgynnodd yn wir, ond nid yn y dull a'r modd a oedd yn ei fwriad cyntaf Canys efe a ddisgynnodd ynghynt, ac a darawodd bob un gris fel petai ddrwm.

Eisteddodd ar ben ei hun am hydoedd.

eisteddodd y dyn dan ochneidio.

Yn syml.' Eisteddodd McClure ar ymyl y ddesg gan ochneidio'n ddwfn.

Eisteddodd yno nes i'r awyr ddechrau gwanio ac i'r machlud daenu o bell gysgodion ei gochni dros y nen.

Eisteddodd Siân i lawr yn araf a dechreuodd y gwrid ddychwelyd i'w ruddiau.

Eisteddodd wedyn yn syllu i'r tân a drachtio medd Mari Crwybr efo tefyll o fara rhyg.

A chyda hynny o eglurhad eisteddodd Gruffydd i lawr i fwyta cinio, cinio rhywun arall.

eisteddodd y dyn a gwelodd debra ei fod e'n olygus, ond gyda hen graith ar ei foch.

Roeddwn i ar yr awyren o Buenos Aires i Drelew ac fe eisteddodd dynes ganol oed o'r enw Silvia wrth fy ymyl.

Eisteddodd a thaenu'r napcyn dros ei chôl.

Eisteddodd Guto.