Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eitha

eitha

Deallwn i wyl Seilo gael cyfarfod y prynhawn i'r plant, eitha' llewyrchus ond braidd yn denau mewn cynulleidfa a chystadlu oedd cyfarfod yr hwyr.

Pedair cân i gyd: Alison, Jim Never Fixed It For Me, Ceffyl Pren a Sêr ac maen rhaid dweud fod yna elfennau eitha doniol i eiriaur caneuon.

"Eitha' gwaith â fo," meddai Sandra.

Abertawe a Wrecsam fydd yn cystadlu am y Cwpan Cenedlaethol y tymor hwn, ar ôl i'r ddau ennill eu gemau rownd gyn-derfynol yn eitha cyffyrddus neithiwr.

Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.

Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.

Wharion nhw'n eitha da yn yr hanner cynta, meddai maswr Abertawe Cerith Rees ar y Post Cyntaf y bore yma.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Mae Alison yn son am ferch syn dipyn o bishyn! Yn agor gyda sain gitars amrwd syn effeithiol ac ynan datblygu i fod yn eitha roci.

Roedd nifer o chwaraewyr ifanc ar y cae ac fe wnaethon nhw'n eitha da.

Nid yw'r glud yn un cryf iawn, mae tua deg gwaith gwannach na bondiau cemegol arferol felly mae'n eitha' hawdd datod y belen protein o'i siap.

'R'on ni'n eitha cadarn yn y cefn.

Roedd hi'n Gymraes ac yn eitha ymddiheurol.

Roedd yr hanner cynta yn eitha cyflym ond fe ddechreuais i setlo mewn wedyn.

Gêm eitha anniben, hefyd, tan y chwarter awr olaf pryd sgoriodd y tîm cartre dri chais.

Yn y drafodaeth a ddaeth wedyn daeth hi'n amlwg fod y Gymdeithas wedi bod yn eitha' llwyddiannus yn nhermau adeiladu cysylltiadau o fewn y Cynulliad (er enghraifft gyda gweision suful) ac o safbwynt dylanwadu ar y corff ei hun.

Yr ydw i wedi bod yn mynychur pictiwrs yn eitha rheolaidd yn ddiweddar.

"Mae ganddi ffordd wahanol o edrych ar bethau a hiwmor eitha gwahanol," meddai Ann Fôn, cynhyrchydd Mêts yn y Stêts.

'Roedd y gêm yn erbyn Llanelli ychydig bach yn anffodus - o'dd y ddau dîm yn eitha gwan.

Mae'n bosib y bydd raid i chi wneud penderfyniad pwysig ond eitha anodd yr wythnos hon.

Serch hynny, roedd hi'n ddiwrnod eitha diddorol gyda dau o fatwyr yr ymwelwyr yn sgorio dros hanner cant a bowlwyr Morgannwg yn dodir bêl yn y man iawn.

O'n nhw'n eitha grymus yn y dechre ond yn y diwedd r'on ni'n rhy gryf iddyn nhw.

Eto, er bod y ddau yn gymaint o ffrindiau roedden nhw'n eitha gwahanol i'w gilydd hefyd.

Yn ogystal a pherfformiadau gan y grwpiau mi fydd yna adloniant eitha gwahanol.

Tîm rygbi eitha' deche - ond beth aral?

Tyf llawer o blanhigion eitha cyffredin yma ond yn doreithiog mewn cymhariaeth a phorfeydd mynyddig a thir amaethyddol llawr gwlad.

'Mae cyflwr eitha da ar yr ast, er mai brithgi yw hi.

Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.

Roedd Jehosaffat yn frenin eitha derbyniol, ond druan ohono, roedd yna rywbeth bach yn mynd o'i le iddo o hyd ac o hyd.

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

Er, mae hi'n edrych yn noson eitha clir.

'Felly ro'dd e'n eitha profiadol ac yn haeddu bod yma.

Eitha da?

A'r noson wedyn - fel pe tasa rhywbath yn mynnu bod - roeddwn i yn nhe parti yr hen bobol, ac mi roedd yno eitha sglats hefyd.

Aeth pethe'n eitha da yn y llinellau - mae ychydig bach o waith 'da ni i wneud eto.

"Ac efe a'i hanfonodd i borthi moch." (Eitha job iddo fo.

Dyw e ddim yr un peth â pherfformio o flaen cynulleidfa fyw, chi ddim yn cael yr un ymateb." Er hynny dyw hi ddim yn edifar gadael Bobby Wayne a'r byd cabaret: "Er bod Bonnie yn fyd-enwog, rwy'n eitha' hapus gyda'r gŵr a'r bechgyn a'r tŷ ac rydw i wedi gweld lot o'r byd.

Iddo fo golli bydd yn rhaid iddo fo gael pedwar diwrnod eitha ciami a rhaid i rywun arall gael pedwar diwrnod rhyfeddol.

Fe ddylse nhw roir parch eitha iddyn oherwydd mae chwaraewyr dawnus gyda nhw.

mae'n eitha posib, fodd bynnag, y bydd y gymdeithas yn edrych tua'r cyfandir am y rheolwr nesaf.

A fel tîm ron ni'n eitha plês â'r ffordd daethon ni mâs o'r gêm yn Munster.

Rwyn credu i fi gael tua 10 rhediad dros hanner cant - mae hynna'n eitha da.

"Y gaeaf hwnnw fe ddechreuodd hi fflyrtan gyda'r cowmon newydd, bachan ifanc digon teidi o'r North 'na rywle bachgen cryf, yn eitha golygus, ac yn weithwr da.

'Roedd hi'n gêm eitha anniben,' meddai cefnwr Abertawe, Kevin Morgan, ar y Post Cyntaf y bore yma.

Rydw i'n falch o glywed hynny achos rydw i wedi bod yn eitha stiff yn codi'r dyddiau diwetha 'ma.

Duw, dere â'th saint o dan y ne' O eitha'r dwyrain bell i'r de, I fod yn dlawd, i fod yn un, Yn ddedwydd ynot Ti dy Hun.

A minna'n eitha pêl-droediwr hefyd!

Mi feddyliais wedyn y basa fo'n eitha peth pe taswn i'n cael pysan newydd tra oeddwn i yn y dre, ac mi es i mewn i ryw siop grosar i chwilio am rai.

Roedd yr hen Hugh yn ei ddyddiau cynnar yn eitha' hoff o'i beint, ond clywais Mam yn dweud na fuo hi erioed ar ôl am arian ganddo.

Taith, tan yr wythnos ddiwetha, yr oedd e'n edrych yn eitha sicr i fod arni.

Os dowch ar eich hynt yn y gwanwyn fe welwch seren y gwanwyn yn garped piws golau yma, planhigyn eitha prin yngh ngogledd Cymru.

Y peth ydw i'n geisio'i ddweud ydi hyn: petawn i wedi mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n eitha posib y buaswn innau heddiw ymhlith y nifer fawr sy'n wfftio at y syniad o ysbryd, da neu ddrwg, ac at unrhyw fath o fodau sy'n gallu camu nôl ac ymlaen o'r byd yma i'r byd tu hwnt i'r llen.

Does gen ti mo'r prydar hwnnw, o leia, rwyt ti wedi hel eitha hosan," edliwiodd Gruff.

Roedd llais Mary'n eitha llym.

Er hynny, bydd cricedwyr Lloegr yn eitha bodlon ar y sefyllfa.

Yr oedd yn brofiad eitha emosiynol o wybod be ddigwyddodd i'r Cymry.

Roedd ganddo gamera Super VHS y gellid ei guddio'n eitha hawdd.

Eitha peth, meddai, oedd atgoffa cynghorwyr Caernarfon bod cyfoeth a ddaeth trwy Doc Fictoria a'r Cei Llechi wedi ei ennill ar gefn chwarelwyr y lechan las o Ddyffryn Nantlle a Llanberis.

R'on i'n siarad â Steve James neithiwr a mae e'n eitha ffyddiog y bydd Morgannwg yn llwyddiannus yn y gêm yma.

'Wnes i ddim ond cydio yn fy nghap a deud, "Dyna dy eitha' di'r uffar," ac allan a fi'.

Felly, wrth i mi godi i fynd i 'ngwely dyma fi'n rhoi fy nwy law ar ben Joe Louis a dweud wrth y lleill: 'Mae bwrw cythreuliaid o ddyn yn eitha hawdd.

Ac fel mae rhai merched wrth ddisgwyl plentyn aeth hi'n eitha obsesd efo'r holl beth.