Credaf ei fod wedi lliniaru peth ar y farn eithafol hon ymhen amser, ac nid yw datblygiadau'r blynyddoedd diweddar yn ategu ei chywirdeb.
I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.
Y mae cynghorwyr sir Rhydaman, Llafur wrth gwrs, yn eithafol eu gwrth-Gymreigrwydd.
Nofel antur sinistr yn astudio nodweddion mwyaf eithafol y natur ddynol.
Mae De Libanus bellach yn nwylo'r ymladdwyr Mwslemaidd eithafol - Hezbollah.
Er fod tlodi eithafol ymysg y bobl hyn, cafwyd croeso cynnes, ac o ddiddordeb arbennig i'r Cymry oedd gweld y prosiect dwyieithog ar waith mewn ysgolion.
Ceid rhyw genedlaetholdeb ymhlith y gwyr mwyaf eithafol yn y mudiad Phariseaidd ac yn y mudiad bedyddiol a gynhwysai gymuned Qumrân.
Gochelgarwch eithafol a diffyg gwroldeb a ddarganfum ynglŷn â chyhoeddi yn groyw ddarganfyddiadau astudiaethau beirniadol modern.
Darlunnir Efnysien yn rymus hefyd, gŵr a lywodraethir yn llwyr gan y syniad hwn o anrhydedd personol sy'n troi mor hawdd yn falchder eithafol.
Yn senedd Catalunya, Catalaneg mae pawb yn siarad, o'r asgell chwith i'r dde eithafol, a hon yw iaith gwleidyddiaeth y cenedlaetholwyr Catalanaidd a chenedlaetholwyr Sbaenig fel ei gilydd.
Geilw rhai am weithredu mewn dulliau eithafol dan rai amgylchiadau i gyrraedd eu dibenion, tra dadleua eraill pai pwyll a chymedroldeb yw'r arfau gorau.
Fe'i cyhuddwyd o dro i dro ei fod yn fyrbwyll, ffôl ac eithafol.
Surni eithafol yw'r achos am yr anaddasrwydd.
Rhaid imi gyfaddef, fod y demtasiwn yn gref a bu bron imi wneud rhywbeth eithafol am gwallt cyn bwrw i barti pen-blwydd fy ffrind Sophie yn Llundain dros y penwythnos.
Ymateb yn eithafol i sefyllfa enbydus unwaith eto, fel gyda boddi Cwm Celyn a'r Arwisgo yng Nghaernarfon.
Yn Ffrainc y cafwyd y Chwyldroadwyr mwyaf eithafol, yr Adweithwyr mwyaf 'styfnig, a'r Cymedrolwyr mwyaf soffistigedig.
Beth bynnag, roedd y darlun yn un digon cyffrous ac eithafol i mi siarad ar y pwnc wrth nyrsys y ward a'r meddygon ifainc oedd gerllaw.
'Chydig yn eithafol ella?' 'Mi gaiff 'y niod i â chroeso.
Yn sicr yr oedd distryw yr Ail Ryfel Byd yn fwy cyffredinol ac eithafol nag a gafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - yn enwedig ym myd cyfalaf sefydlog, hynny yw, adeiladau a pheiriannau.