Un eithriad i hyn, efallai, yw T H Parry-Williams.
Roedd naws digon oer iddi wrth iddo sefyll ar y palmant, ond fel arfer roedd ceir yr heddlu fel ffwrneisi, a go brin y byddai car Jenkins yn eithriad.
Ar lefel Ewropeaidd, mae'r Gymraeg yn eithriad ymhlith ieithoedd mewn sefyllfaoedd tebyg gan nad yw'n iaith swyddogol.
Eithriad oedd "AE" (George Russell), yn ymboeni ag egluro'i genedlaetholdeb mewn cyfrol The National Being, a'r myfyrdod dychmygol am wladwriaeth Iwerddon.
Yn wir, ychydig iawn o son o gwbl a geir am Forgannwg yng ngwaith y Gogynfeirdd hyd at gwymp y Llyw Olaf, ac eithriad llwyr yw awdl foliant Prydydd y Moch i Wenllian ferch Hywel o Gaerllion tua diwedd y ddeuddegfed ganrif.
Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.
Eithriad mewn llongddrylliadau hen iawn yw i'r darnau o'r llong a welir yn awr adlewyrchu siâp y llong wreiddiol.
Ym maes pensaerni%aeth, wrth gwrs, yr oedd eithriad amlwg i'r rheol hon, sef cestyll mawreddog a bygythiol y brenin a'r arglwyddi.
Yr eithriad sy'n profi'r rheol ydyw Mr J Glyn Davies.
Er bod y profiad yn eithriad i mi, ymddangosai yn un cyffredin iawn iddyn nhw tran disgwyl y gwr adref o'i waith neur plant o'r ysgol.
Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.
Bob Cyf Cyff bellach dwi'n teimlo 'mod i'n crybwyll Golwg a dydi eleni ddim yn eithriad.
Doedd ei ymweliad â'r Unol Daleithiau ddim yn eithriad ac yntau'n teithio o gymuned Gymraeg yng nghwmni rhyw Gymro neu'i gilydd i weld arwyddion cynnydd neu olion Rhyfel Cartref.
Eithriad i hyn oedd sir Drefaldwyn.
Eithriad yn ei waith yw'r darlun dyfrliw o Borth Padrig lle mae dylanwad arddull bosteraidd y dauddegau yn rhoi inni gynllun cryf sy'n drwm gan flas cyfnod.
'Os ydi rhywun yn lân ac yn daclus,' aeth yn ei blaen, 'ac yn cario hances, BOB amser heb eithriad, han-ces...
DEFNYDDIO AC ARBED YNNI: Rhaid defnyddio ynni ar gyfer pob gweithgaredd, ac nid yw'r gwaith a gyflawnir neu a argymhellir yn yr Adran neu gan yr Adran yn eithriad.
Ar wahân i ambell eithriad prin, mae agendor truenus rhwng safonau'r perfformiadau Saesneg a'r rhai cymraeg.
Dywedir fod pob awdur o bwys o Bantycelyn hyd Proust - ar wahân i un eithriad, sef Paul Claudel - wedi derbyn yr egwyddor hon.