Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eithriadau

eithriadau

Eithriadau: Myfyrwyr Gweithgareddau Awyr Agored a Mathemateg.

Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi.

Anaml y byddai'r saer coed yn gwneud pâr o olwynion newydd heb y gert neu gambo yn gyfan, er bod eithriadau, mae'n wir.

Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.

Eithriadau: Myfyrwyr Prif Ddull Mathemateg.

Teimlid bod yr Eglwys (er gwaethaf eithriadau megis 'yr hen bersoniaid llengar') wedi ymbellhau oddi wrth y werin Gymraeg, ac felly bod talu degwm i gynnal y sefydliad eglwysig yn anghyfiawn.

Hytrach yn elfennol oedd pensaerni%aeth tai annedd yr ysgwieriaid o hyd, er bod eithriadau i'r rheol hon hefyd a'u bod fel dosbarth yn dysgu'n gyflym.

O ddod yn nes adref, y gwir plaen oedd, gyda rhai eithriadau, mai rhywbeth i'r canol oed a'r hen oedd cyfarfod gweddi a seiat.

Mae'n wir fod Cymry ifanc wedi anfon adroddiadau yn ôl o Ffrainc pan oedd cenedlaetholwyr Llydewig yn cael eu herlyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond eithriadau oedd y rheiny hefyd - pobl yn gweithredu am reswm gwleidyddol, penodol yn hytrach nag er mwyn stori.

Er mai browngoch yw lliw ysgyfarnogod gan amlaf, y mae rhai gwynion i'w cael yn achlysurol, ond eithriadau yw'r rheini.

Gwyddom fod eithriadau i'w cael.

Eithriadau, ysywaeth, yw'r cwmni%au.

Gyda'r eithriadau hyn nid oedd yn amleiriog ynghylch rheidiau'i fywyd.