Mae'n ddiddorol nodi i Gymdeithas yr Iaith ennill ei phrif frwydrau, ag eithrio'r ymgyrch arwyddion ffyrdd, ymhell ar ôl i'r tyrfaoedd ddiflannu. Dafydd Morgan Lewis yn ein harwain yn ôl ar y stryd
'Trachwant,' meddwn i wrthyf fy hun yn hunan-gyfiawn, gan wybod fod yn gas gen i siopau, ac eithrio siopau llyfrau.
Collodd ei hymgeiswyr oll eu hernes ac eithrio'r Dr Gwenan Jones, a ymladdai yn y Brifysgol.
Am ddyddiau wedyn bu pawb, ac eithrio Ann, yn crafu tipyn - ac yn syllu'n wyliadwrus ar yddfau merched Ethiopia!
Darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf ym mis Tachwedd, ond amharod oedd y BBC i ddefnyddio unrhyw iaith arall ac eithrio Saesneg, a hwnnw'n Saesneg ag acenion dosbarth canol Llundain.
Session in Wales - Bethan Elfyn a Huw Stephens Mae llwyddiant bandiau fel y Manic Street Preachers, Catatonia ar Stereophonics wedi gosod Cymru ar flaen y gad o ran diwylliant cwl, ffaith a gydnabyddir gan gyfres eithrio BBC Radio 1 Session in Wales, syn edrych ar dalent sylfaenol y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
Ac eithrio Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, a fu'n gyfrifol am gydweithio ar raglen beilot gyda Bethan ar gyfer y gyfres, mae'r ysgolion sydd wedi eu gwahodd i ymddangos yn y gyfres yn rhai nad ydynt fel arfer yn cael sylw gan y Cyfryngau, yn ol Bethan.
Ni ddylid codi cyfarpar ac eithrio dan arolygaeth i sicrhau eich bod yn defnyddio'r dull cywir ac nad yw'r unigolyn yn gwneud mwy na'i allu.@
Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.
Yn yr ysgolion newydd, pwnc dewisol oedd iaith fodern, i'w dderbyn neu ei wrthod ar ddiwedd y drydedd flwyddyn (fel pob pwnc arall ac eithrio Saesneg a mathemateg).
Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser.
Yn wir, ni chai gyfle i ddweud fawr o ddim ac eithrio ambell 'Bobl bach!' neu 'Brensiach annwyl!' Roedd hi'n methu'n glir a dod dros y ffaith fod yr holl bethau hyn wedi digwydd a hithau'n gwybod dim amdanynt.
Ni ymddangosai neb yn hapus ac eithrio fe ei hunan wrth gwrs.
Os yw plentyn i gael ei eithrio oddi wrth rhan neu rhannau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae modd gwneud hynny drwy proses penodol o nodi hynny - a nodi'r rhesymau dros yr eithrio - mewn DAA.
Roedd llawer o'r cownteri yn gwbwl wag - ac eithrio ambell ddarn o gig neu damaid o gaws.
Y capel oedd sylfaen y patrwm hwnnw: Aem yno bron bob nos yn yr wythnos ac eithrio nos Sadwrn, ac yr oedd ein Suliau'n arbennig o lawn.
Ac eithrio I Timotheus, Hebreaid, Iago a I ac II Pedr, a gyfieithwyd gan yr Esgob Richard Davies, a'r Datguddiad, a gyfieithwyd gan Thomas Huet, William Salesbury oedd cyfieithydd cynnwys y ddwy gyfrol, ac ef a olygodd y cyfan hefyd.
Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.
Byddai yn y pwyllgor gwaith le bywiog iawn a'r trafod a'r dadlau bob am er yn adeiladol ac o ddifrif ag eithrio ambell dynnwr coes fel Huw Caer Loda!
At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.
Aeth Tecwyn Lloyd mor bell a'i gymharu a Dostoieffsci, Cervantes a Kafka, a glaw Gŵr Pen y Bryn yn 'nofel Gymraeg fwyaf a sgrifennwyd er dyddiau'r Pedair Cainc - heb eithrio nofelau Daniel Owen'.
Does yna'r un grwp yng Nghymru sydd mor fywiog a chyfoes ê'r Tystion (ag eithrio Anweledig o bosib) ac ni all neb wadu hynny yn dilyn eu perfformiad gwefreiddiol yn y ddawns ryng-golegol.
Ni ellir dweud fod y Cymry wedi bod yn brin o addysg glasurol, ac eithrio efallai yn y deugain mlynedd diwethaf hyn.
Ni theithiai Hamilton lawer ar y bysys ac eithrio yn ystod y rhyfel, hwyrach, ond 'roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y bysys a'r hogiau.
Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod eithrio'r sectorau preifat a gwirfoddol o'r ddeddf yn arwydd clir nad yw'r ddeddf o ddifrif yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol yng Nghymru.
Ni wyddwn unrhyw beth am y cyfansoddwr, ac eithrio mai Rwsiad ydoedd, ond wedi mynd ati i chwilio am fwy o wybodaeth mewn gwyddoniadur fe'm trawyd gan y tebygrwydd rhyngddo ac Ieuan Gwynedd.
Datguddiodd y Major ei farn yn wyneb haul yn ystod ei ddarlith heddiw pan haerodd nad oedd dim diddordeb gan yr Eidalwyr ynom ac eithrio yn ein harian.
Ar nos Iau, bu ein rhaglenni eithrio ar BBC Radio 1 yn hynod o lwyddiannus, gan gynyddu nifer gwrandawyr yr orsaf yn gyffredinol.
Am gyfnod helaeth, dyna, yn wir, oedd y sefyllfa, ond yn ffodus, ni throsglwyddwyd meistrolaeth y cryse duon yn bwyntie, ac eithrio cic gosb gan John Poole.
Roedd y sefyllfa trwy ganol a gorllewin Cymru, ac eithrio de Penfro Saesneg, yr un mor alaethus.
Daethai i Sylhet yn ugain oed bedair blynedd ar ddeg ynghynt ac 'roedd wedi bod yn y gwaith yno yr holl amser ac eithrio cyfnod byr o ddeunaw mis, pan ddychwelodd i'w gartref yn Nadia.
Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf.
Mwynheais yn fawr iawn yr amser y bu+m yn gweithio gydag ef, ag eithrio'r adegau hynny pan oedd yn erlyn achosion yn ymwneud â'r Iaith, gan fy rhoi innau i mewn i'r llys i wneud yr erlyn, ond yn ceisio fy ngwahardd rhag erlyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darlledir pob un o'r rowndiau ar BBC2 y noson wedi'r gystadleuaeth ag eithrio'r rownd derfynol a ddarlledir yn fyw ar nos Sadwrn.
Doedd dim y gallai'i wneud am y moelni chwaith ac eithrio talu crocbris yn un o salonau gorau'r brifddinas am doriad da, ffasiynol.
Roeddem ni'r plant yno deirgwaith y Sul a phob noson o'r wythnos ac eithrio Dydd Mercher a'r Sadwrn - Cwrdd Gweddi,Dosbarth Beiblaidd neu Ddosbarth Tonic Sol-ffa, Cymdeithas y Bobl Ifainc a Seiat a hyd yn oed ar ddydd Mercher, roedd te i'r aelodau yn y festri.
Ond ni siaradai lawer amdanynt, ac eithrio'r ddiod a'r pridd ei hun.
Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).
Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.
Ar gefn hyn, gellir nodi fod lleihad yn y sylfaen diwydiannol yn eithaf cyffredin ar draws y byd (ac eithrio'r Eidal, yr Almaen a Japan).
O ddechrau'r ddeunawfed ganrif ymlaen, 'doedd dim gwrthbwysau arall - dim cymdeithasau tai coffi, dim dosbarth masnachol Cymraeg, dim agnosticiaid prifysgol, dim criwiau o arlunwyr, dim diletantiaid llengar (ac eithrio ychydig o bersoniaid), dim isfyd Bohemaidd.
Dogfennwyd diddordeb Cymreig arall, sef chwaraeon, yn dda yn Camp Lawn a oedd yn cynnwys y cwis pop Cant y Cant, tra atgyfnerthwyd y sefyllfa leol ledled Cymru drwy gyfrwng nifer o sesiynau eithrio i gwmpasu chwaraeon mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Bydd gan yr Artist hawl i doriad pryd bwyd awr o hyd ar ol pum awr o waith ac eithrio amser colur a bydd y Cynhyrchydd, yn ogystal, yn sicrhau fod yr Artist yn cael toriad te neu goffi chwarter awr ar ol tair awr o waith.
nid oedd sail i'r ddadl, meddai, y dylid condemnio pob rhyfel ac eithrio rhyfel amddiffynnol.
Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.